Tywydd yn amharu ar ddechrau addawol Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
david llloyd
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd David Lloyd 78 disglair ar y diwrnod cyntaf

Fe gafodd Morgannwg ddechrau addawol yn eu gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Gaerhirfryn yn Old Trafford ddydd Iau cyn i'r tywydd ddod â'r chwarae i ben yn gynnar.

David Lloyd agorodd y batiad i Forgannwg gyda Joe Cooke, ac er i Cooke ymadael am 15, aeth Lloyd ymlaen i sgorio 78.

Wrth i'r tywydd ddechrau cau i mewn, fe gollodd Morgannwg ddwy wiced arall - Labuschagne am 12 a Lloyd.

Billy Root a Kiran Carlson oedd yn y canol pan ddaeth y chwarae i ben gyda'r ymwelwyr wedi cyrraedd 117 am 3 wiced.

Pynciau cysylltiedig