Rhybudd melyn am law trwm yn rhannau deheuol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd 8 MaiFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd yn berthnasol mewn 15 o siroedd Cymru

Mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym yn ardaloedd deheuol Cymru, a bydd yn para tan 23:59 nos Sadwrn.

Roedd 16 o rybuddion 'byddwch yn barod' am lifogydd, dolen allanol mewn grym ar draws Cymru erbyn prynhawn Sadwrn, yn bennaf yn y canolbarth a'r de orllewin.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai ysbeidiau trwm o law cyson, yn arbennig fore Sadwrn, achosi dŵr ar rai ffyrdd a thrafferthion i deithwyr.

Gallai rhwng 25mm a 50mm o law syrthio ym mwyafrif yr ardaloedd ble mae'r rhybudd mewn grym, a rhwng 75mm a 125mm o bosib dros rannau o Fannau Brycheiniog.

Wedi'r cawodydd yn y bore, mae disgwyl i'r glaw ostegu mewn rhai mannau yn y prynhawn cyn rhagor o gawodydd trwm wrth iddi nosi.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i fannau yn y siroedd canlynol:

  • Abertawe

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Caerdydd

  • Caerfyrddin

  • Caerffili

  • Casnewydd

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Merthyr Tudful

  • Mynwy

  • Penfro

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Torfaen

Pynciau cysylltiedig