Tir ar werth 'ond rhaid i'r prynwr symud 2,000 o gyrff'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty'r ParcFfynhonnell y llun, Francis Firth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llun hwn, a dynnwyd ym 1899, yn dangos yr ysbyty - cadwyd tŵr y cloc ar y safle ar ôl iddo gael ei droi'n Garchar y Parc

Mae erw o dir yn cael ei marchnata ar gyfer tai ar safle hen fynwent ysbyty.

Ond cyn y gall datblygwr adeiladu cartrefi, rhaid iddo gael gwared ar weddillion 2,000 o ddynion, menywod a phlant.

Mae'r gwerthwr tai Watts & Morgan yn hysbysebu'r "darn o dir sydd â photensial ar gyfer datblygu tai" ar werth ym mhentref Coety, Pen-y-bont ar Ogwr.

Dyma fynwent Ysbyty Parc, a safodd lle mae Carchar y Parc nawr, a dywed y cwmni mai dyma un o'r safleoedd "mwyaf heriol" y mae wedi eu marchnata.

'Cleifion tymor hir'

Ar hyn o bryd mae ceffylau yn pori ar y tir a phan mae'n bwrw glaw gallwch weld amlinelliad y beddau, yn ôl yr hanesydd Louvain Rees.

"Mae yna lawer o bobl wedi'u claddu yn y darn bach hwnnw o dir - 2,000 yn ôl y gofrestr gladdu," meddai.

"Fe'u claddwyd yno o 1887, gyda'r olaf wedi'i gofrestru ym 1958.

"Dim ond tair carreg fedd sydd yno, ac maen nhw wedi eu gosod wrth y ffens. Ond mae yna lawer o bobl, nid dim ond un person mewn un bedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tir 1.5 milltir o ganol tref Pen-y-bont

Agorodd y safle 0.5 hectar ym 1864 pan adeiladwyd Ysbyty Glanrhyd i ofalu am gleifion â chyflyrau iechyd meddwl, gydag Ysbyty Parc yn agor ei ddrysau ym 1887 i ddarparu ar gyfer mwy o gleifion.

"Anfonwyd pobl i ysbyty Glanrhyd i ddechrau ond, os oeddent yn cael eu hystyried yn gleifion tymor hir neu nad oedd modd eu gwella, fe'u hanfonwyd i Ysbyty Parc i naill ai wella neu i farw," ychwanegodd Ms Rees.

"Bu farw llawer o'r plant o bethau fel twbercwlosis - yn aml ni fyddent yn marw o'r hyn y cawsant eu trin ond pethau y gwnaethant eu dal yno."

Mae Ms Rees o'r farn y byddai unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn dod â gwrthwynebiadau gan y rhai sydd â pherthnasau yno.

Cydnabu Dyfed Miles o gwmni Watts & Morgan y posibilrwydd hwn, gan ychwanegu: "Dydyn ni erioed wedi marchnata darn o dir fel hyn o'r blaen.

"Byddai angen i ddatblygwr ddatgladdu'r gweddillion a'u gosod yn rhywle arall."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ychydig o arwyddion o orffennol y cae

Pynciau cysylltiedig