Diogelwch Carchar y Parc, Pen-y-bont wedi gwella
- Cyhoeddwyd
Mae lefel diogelwch yn un o garchardai mwyaf y DU yn gwella yn ôl archwilwyr, a hynny'n groes i'r patrwm cenedlaethol.
Ond er bod safonau uchel yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r driniaeth o droseddwyr rhyw yn "boenus o annigonol".
Mae tua 17% o'r 1,612 o garcharorion yno yn droseddwyr rhyw, ac mae rhai yn mynd i lefydd eraill am gyrsiau ymddygiad.
Ond dywed penaethiaid y carchar nad oes cytundeb ganddyn nhw i wneud hynny.
Mae Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi hefyd wedi galw ar y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wella sefyllfa'r rhai sy'n ddigartref pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau.
Mae'r BBC wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ymateb.
Perthnasau 'gyda'r gorau'
Ar y cyfan roedd canfyddiadau'r archwilwyr am y carchar yn drawiadol, yn enwedig o ystyried yr amgylchedd heriol i garchardai.
Roedd y berthynas rhwng staff a charcharorion yn "bositif iawn", ac roedd y gwaith o gynnal perthynas rhwng carcharorion a'u teuluoedd "gyda'r gorau i ni eu gweld".
Ychydig iawn o ymosodiadau ar staff a welwyd, ac roedd lefel y trais yn y carchar wedi disgyn, er ei fod ychydig yn uwch na charchardai eraill.
Roedd 1,612 yng Ngharchar y Parc adeg yr archwiliad yn Nhachwedd 2019, gydag 17% o'r rheini yn droseddwyr rhyw.
Ond fel adnodd carcharu ac adsefydlu, does gan y carchar ddim adnoddau cytundebol i gynnal adsefydlu penodol i droseddwyr rhyw.
Er hynny, mae bron 300 o droseddwyr rhyw yn cael eu gosod yng Ngharchar y Parc.
Dywedodd prif archwilydd y carchardai, Peter Clarke: "O ystyried maint y boblogaeth o droseddwyr rhyw yn y Parc, fe ddylai fod darpariaeth o fewn y sefydliad ei hun ar gyfer hyn."
Mae ei adroddiad hefyd yn dangos yr heriau sy'n wynebu'r carchar gyda bron traean o'r carcharorion yn defnyddio gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, a 133 yn derbyn sylwedd yn lle heroin.
Er hyn, dywedodd yr archwilwyr bod y sefyllfa yma'n cael ei reoli'n dda.
Roedd lefelau hunan niweidio wedi disgyn, a hunanladdiad.
Mae'r carchar wedi ceisio mynd i'r afael â hyn drwy gyflogi seicolegydd a dadansoddwr ymddygiad.
Roedd gan dros hanner y carcharorion yn y Parc broblemau iechyd meddwl, a dim ond 23% a ddywedodd eu bod wedi derbyn help.
Digartrefedd
Mae digartrefedd yn fater allai danseilio'r gwaith da sy'n cael ei wneud yn y carchar.
Ar gyfartaledd mae 100 o bobl yn cael eu rhyddhau o Garchar y Parc bob mis, ond does dim cyfeiriad gan 17% ohonyn nhw i fynd iddo.
Galwodd yr archwilwyr ar Wasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llety ar gael i garcharorion sy'n cael eu rhyddhau.
Ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth Mr Clarke alwad tebyg wedi i archwiliad o Garchar Caerdydd ganfod bod bron hanner y carcharorion yno yn ddigartref wrth gael eu rhyddhau, a bod hynny'n cynyddu'r risg o aildroseddu yn sylweddol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda'r awdurdodau er mwyn hwyluso'r newid o fywyd yn y carchar i fywyn yn y gymuned.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2019