Criced: Y tywydd yn llethu Morgannwg a Sir Gaerhirfryn

  • Cyhoeddwyd
Keaton Jennings o Sir Gaerhirfryn ar ei ffordd i'r 64Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Keaton Jennings o Sir Gaerhirfryn gyfanswm o 64 ar ddiwrnod ola'r chwarae

Fe orffennodd Sir Gaerhirfryn ar 301-9 yn erbyn Morgannwg mewn gêm gyfartal a gafodd ei lethu llawer gan y glaw ym Manceinion.

Cafodd Keaton Jennings a Josh Bohannon 64 a 53 i'r tîm cartref cyn i Andrew Salter gipio dwy wiced.

Cafodd Michael Neser, chwaraewr tramor Morgannwg, ddechrau addawol i'r clwb gyda dwy wiced am 50 rhediad, gyda Dan Douthwaite hefyd yn hawlio dwy wiced.

Ond roedd colli pum sesiwn dros y tridiau cyntaf o chwarae wedi llethu'r gêm gyda'r ddau dîm yn gwneud eu gorau yn yr amodau anodd.

Mae Sir Gaerhirfryn yn parhau ar ben grŵp tri tra bo Morgannwg yn symud i'r pedwerydd safle.

Pynciau cysylltiedig