Datgelu anthem Yws Gwynedd ar gyfer Euro 2020
- Cyhoeddwyd
Yws Gwynedd sy'n gyfrifol am anthem Euro 2020, BBC Radio Cymru, Ni Fydd y Wal - ac mae cyfle i chi fod yn rhan o glawr y sengl.
Fe gafodd y gân ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Ifan Evans ddydd Llun gyda Yws hefyd yn westai arbennig ar y rhaglen.
Fe ddatgelodd Yws bod cyfle arbennig i bobl fod yn rhan o'r clawr drwy ymuno yn ymgyrch Wal Goch Rithiol Radio Cymru.
Rhwng nawr a chychwyn y bencampwriaeth fe fydd Radio Cymru yn casglu lluniau o gefnogwyr o bob cornel o Gymru a thu hwnt yn gwisgo coch a dangos eu cefnogaeth.
Gan na fydd modd i'r mwyafrif o gefnogwyr deithio i Azerbaijan na'r Eidal, y bwriad yw creu wal goch rithiol!
Bydd y lluniau yma'n cael eu gosod mewn darn o gelf torfol a'u defnyddio fel clawr newydd sengl Ni Fydd y Wal. Felly byddwch yn greadigol a chael hwyl wrth dynnu eich llun!
Fe fydd y 200 cyntaf i gyfrannu hefyd yn derbyn baner Draig Goch Radio Cymru. Er mwyn bod yn rhan o'r ymgyrch gyrrwch eich lluniau at ifan@bbc.co.uk.
Darllenwch yr amodau yn llawn yma.
Dywedodd Yws bod y gân wedi cael ei hysgrifennu dros benwythnos yn 2020 ganddo ef a'r band, gyda'r fideo bryd hynny ar ei hanner. Wedyn daeth y cyfnod clo ac roedd yn rhaid iddo addasu fymryn ar y geiriau pan gafodd y bencampwriaeth ei gohirio am flwyddyn.
"Cafodd y fideo ei ysbrydoli gan y ffilm Rocky IV pan mae o'n trio cael ei hun nôl yn ffit," meddai Yws.
"Er fy mod wedi gorffen chwarae pêl-droed tua phum mlynedd yn ôl 'dwi dal i gael breuddwydion o sgorio goliau funud olaf a chwarae i Gymru.
"Nes i roi ychydig o bwysau ymlaen yn ystod y locdown, felly dyna'r syniad ohonof i'n trio cael fy hun yn ffit," meddai.
Felly hawliwch eich baner drwy anfon eich lluniau a pheidiwch â cholli cyfle i gael eich cynnwys ar glawr sengl Ni Fydd y Wal.