Drakeford: 'Cytundeb masnach Awstralia'n peryglu'r Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
defaidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cadarnleoedd y Gymraeg dan fygythiad dros delerau cytundeb masnach Awstralia sydd dan ofal Llywodraeth y DU, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford wrth y BBC ei fod yn poeni nid yn unig am "effaith economaidd y fargen bosib hon ond hefyd ei heffaith ar ddyfodol ein cymunedau".

Mae'n gwrthwynebu cynigion i roi mynediad i farchnad y DU i gynhyrchwyr cig oen a chig eidion Awstralia heb unrhyw drethi na chwotâu ar fewnforion.

Mae arweinydd undeb eisoes wedi dweud bod ffermwyr Cymru yn "arbennig o bryderus" am y trafodaethau.

'Y pethau sy'n gwneud Cymru'n Gymru'

Mynegodd Mr Drakeford bryder hefyd ynghylch yr effaith bosib ar hunaniaeth "cadarnleoedd sy'n siarad Cymraeg".

"Rydyn ni'n siarad yma am y pethau sy'n gwneud Cymru'n Gymru. Dyna sydd yn y fantol yma," meddai.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau gweld "cae chwarae gwastad" a olygai drefn treth a chwotâu sy'n ystyried yr anhawster sy'n wynebu cynhyrchwyr Cymru wrth gystadlu â'u cystadleuwyr yn Awstralia.

"Sut gall ein ffermwyr mynydd gystadlu â hinsoddau Awstralia, sut y gall ein ffermwyr mynydd gystadlu â'r gofod sydd ar gael ar gyfer y ffermydd enfawr sydd ganddyn nhw yn Awstralia?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae amodau Awstralia yn rhoi mantais i ffermwyr yno, medd Mark Drakeford

Mynegodd Mr Drakeford bryder hefyd y gallai'r cytundeb ag Awstralia gyfaddawdu mynediad ffermwyr ŵyn o Gymru i'w prif farchnad allforio, sef Ewrop.

Ar ôl Brexit, mae Llywodraeth y DU yn ceisio trafod amrywiaeth o fargeinion masnach newydd gyda gwledydd ledled y byd.

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi mynegi ei bryderon i uwch weinidog Llywodraeth y DU, Michael Gove, a oedd wedi addo eu trosglwyddo i'w gyd-weinidogion.

Cwestiynu 'diffyg uchelgais'

Fe wnaeth y Prif Weinidog Boris Johnson amddiffyn y fargen arfaethedig yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.

Pan ofynnodd AS Plaid Cymru Hywel Williams iddo ddiystyru cynnig mynediad di-dreth i fewnforion cig o Awstralia, awgrymodd Mr Johnson nad oedd gan Mr Williams "uchelgais" ar gyfer agor marchnadoedd newydd i ffermwyr cig oen o Gymru.

Dywedodd Boris Johnson: "Byddaf yn cefnogi ffermwyr Prydain a ffermwyr Cymru wrth allforio eu cig oen gwych ledled y byd.

"Mae'n warth nad yw un darn o gig oen o Gymru wedi mynd heibio gwefusau'r Americanwyr yn yr 20 mlynedd diwethaf neu fwy.

"Beth am China? Onid oes ganddo uchelgais i bobl y wlad hon [y Deyrnas Unedig] nac i bobl Cymru nac i ffermwyr Cymru?"

Mae gweinidogion wedi'u rhannu ynghylch a ddylid caniatáu mynediad di-dariff i farchnad y DU ar gyfer nwyddau amaethyddol.

Bydd cabinet Llywodraeth y DU yn cyfarfod ddydd Iau i drafod y mater.