Pryder am drafodaethau masnach amaethyddol gydag Awstralia

  • Cyhoeddwyd
TractorFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffermwyr Cymru yn "arbennig o bryderus" ynglŷn ag adroddiadau sy'n deillio o drafodaethau masnach rhwng Llywodraeth y DU ac Awstralia, medd arweinydd undeb.

Honnodd y Financial Times fod gweinidogion wedi'u rhannu ynghylch a ddylid caniatáu mynediad di-dariff i farchnad y DU ar gyfer nwyddau amaethyddol.

Rhybuddiodd John Davies, llywydd NFU Cymru y gallai hynny olygu bod ffermwyr Cymru yn ei chael hi'n anodd cystadlu.

Gwrthod ag ymateb yn uniongyrchol i'r adroddiadau wnaeth Adran Masnach Ryngwladol (DIT) Llywodraeth y DU.

'Pwysig cael hyn yn iawn'

Wrth annerch cynhadledd i'r wasg ar y cyd ag arweinwyr undebau ffermio eraill ledled y DU, dywedodd Mr Davies: "O safbwynt Cymru rydym yn wlad o ffermydd teuluol bach ac mae'r diwydiannau cig eidion a chig oen yn eithriadol o bwysig i ni.

"Mae'n gwbl hanfodol nad yw ein huchelgais i arwain ar safonau, ar newid hinsawdd a bwyd sy'n ystyriol o les yn cael ei dandorri.

"Bydd y cytundeb masnach hwn yn gosod y bar ar gyfer cytundebau masnach yn y dyfodol felly mae'n hynod bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn."

Mae gweinidogion economi a materion gwledig Cymru hefyd wedi galw ar eu cyfoedion yn San Steffan i sicrhau nad yw bargen fasnach rhwng y DU ac Awstralia yn rhoi ffermwyr Cymru dan anfantais.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "glir iawn... na ddylai unrhyw gytundebau masnach newydd greu anfanteision i gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru, drwy ganiatáu i fewnforwyr sydd â safonau is werthu eu cynnyrch yn rhatach na ffermwyr Cymru".

Ychwanegodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths ei bod hi'n "hynod falch o'r safonau diogelwch bwyd uchel sydd gennym ni yma yng Nghymru".

"Ni ddylai unrhyw gytundeb masnach fyth danseilio hynny na'n deddfwriaeth ddomestig ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y pwynt hwn yn gyson i Lywodraeth y DU," meddai.

'Dinistrio diwydiant amaeth Cymru'

Dywedodd llefarydd masnach ryngwladol Plaid Cymru, Hywel Williams, bod y "cynllun sy'n cael ei gynnig yn ychwanegu 0.01% i GDP dros 15 mlynedd tra'n bygwth dinistrio diwydiant amaeth Cymru am genedlaethau".

"Byddai'r un llywodraeth sy'n honni gweithio er budd ffermwyr Cymru yn arwyddo'r fath gytundeb," meddai.

Mae'r DIT wedi dweud wrth y BBC y byddai cytundeb yn "caniatáu hyd yn oed mwy o fynediad i ffermwyr y DU at farchnadoedd sy'n tyfu yn Asia", gan ychwanegu na fyddai'n caniatáu i fewnforwyr arwain at anfanteision i'r diwydiant ffermio na safonau bwyd.