Gwyntoedd cryfion ledled Cymru ddydd Iau a Gwener
- Cyhoeddwyd
Bydd gwyntoedd cryfion a thywydd garw yn taro'r rhan helaeth o Gymru ddydd Iau a ddydd Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd rhwng 15:00 ddydd Iau a 21:00 ddydd Gwener.
Gall tywydd gwyntog arwain at rywfaint o aflonyddwch teithio ac, o bosib, ddifrod i strwythurau awyr agored dros dro.
Mae'n bosib y bydd rhai gwasanaethau bysiau a threnau wedi'u heffeithio, gyda rhai teithiau'n cymryd mwy o amser.
Mae'n debygol y bydd gwyntoedd yn achosi tonnau mawr a allai effeithio ar rai llwybrau a chymunedau arfordirol.
Yn ogystal â rhywfaint o law trwm, bydd yr amodau gwyntog yn dechrau effeithio ar dde Cymru yn hwyr yn y prynhawn ddydd Iau.
Mae disgwyl gwyntoedd mewndirol hyd at 50mya ar adegau, tra bydd gwyntoedd dros arfordiroedd a bryniau yn cyrraedd 60mya.