Dwy ysgol dan fesurau clo a heddlu arfog wedi'u galw
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu arfog yn chwilio mewn ardal ym Mhentwyn, Caerdydd, ac mae dwy ysgol wedi eu rhoi dan fesurau clo er mwyn eu diogelwch brynhawn Iau.
Dywed athrawon un o'r ysgolion iddynt weld giang o ddynion gyda machetes yn yr ardal.
Cafodd disgyblion ysgol arall - ysgol uwchradd Corpus Christi - gyfarwyddyd i aros y tu mewn i'r adeilad tra bod heddlu'n archwilio'r ardal.
Erbyn hyn mae disgyblion wedi cael caniatâd i fynd y tu allan i'r adeilad.
Fe wnaeth yr ysgol drydar: "Mae yna ddigwyddiad wedi bod yn ardal yr ysgol. Rydym yn cadw disgyblion i mewn fel mesur diogelwch. Mae pawb yn ddiogel ac iach.
"Rydym yn aros mwy o fanylion ynglŷn â phryd gallwn ryddhau'r disgyblion. Fe wnawn adael i chi wybod."
Yna mewn trydar arall: "Rydym nawr wedi cael gwybod bod disgyblion yn ddiogel i adael safle'r ysgol. Mae ein bysus arferol ar gael i fynd a nhw adref."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Rydym wedi ein galw i ddigwyddiad yn ardal Pentwyn, Caerdydd.
"Mae heddlu arfog wedi eu hanfon fel mesur diogelwch ac rydym yn cynghori'r cyhoedd i osgoi'r ardal tra bod yr ymchwiliad yn parhau."