Dirwy o dros £6,000 am dorri rheolau Covid yn Aberaeron

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwesty'r Castell Aberaeron

Mae cwpwl sydd yn berchen ar westy yn Aberaeron wedi cyfaddef eu bod nhw'n euog o dorri rheolau Covid ym mis Rhagfyr 2020.

Roedd David James a Meinir Bowen, perchnogion Gwesty'r Castell, wedi'u cyhuddo hefyd o ymddwyn yn ymosodol tuag at yr heddlu, ac fe gafon nhw ddirwy o £6,575.

Clywodd Llys Ynadon Aberystwyth bod plismyn, ar ôl cael caniatâd i fynd i mewn i far y gwesty ar 4 Rhagfyr, wedi wynebu camdriniaeth lafar gan David James.

Roedd hi'n ymddangos bod y cwpwl yn feddw, a nododd swyddogion, ar ôl edrych ar luniau CCTV yr adeilad, fod dyn arall wedi bod yn bresennol wrth y bar yn gynharach yn y noson.

Clywodd y llys ymhellach fod Mr James wedyn wedi "ymddwyn yn anghydweithredol ac yn ymosodol tuag at y swyddogion y tu allan i'r adeilad".

Cafodd lluniau cylch cyfyng a lluniau ar gamera corff y swyddogion eu cyflwyno fel tystiolaeth yn y llys.

Plediodd David James yn euog i dri chyhuddiad o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn groes i adran 4A o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, rhwystro swyddogion rhag arfer eu swyddogaethau, a chaniatáu i alcohol gael ei gyflenwi pan nad oedd hynny wedi ei ganiatáu.

Plediodd Meinir Bowen hefyd yn euog i dri chyhuddiad o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Dywedodd Cadeirydd yr Ynadon wrth y cwpwl fod hwn yn ddigwyddiad "brawychus a diangen" na ddylai'r swyddogion fod wedi gorfod ei wynebu yn ystod eu diwrnod gwaith arferol.

Dywedodd y Sarjant Richard Marshall: "Rydym yn ddiolchgar i'r llys am gefnogi'r gwaith rhagorol a wnaed gan swyddogion y cyngor a'r heddlu.

"Nid oes neb yn mynd i'r gwaith i gael ei gam-drin. Mae'r Drefn Gyhoeddus, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trwyddedu Alcohol a Diogelwch y Cyhoedd yn feysydd allweddol o waith ar y cyd i'r cyngor a'r heddlu.

"Drwy gydol cyfnod Covid-19 rydym wedi cynnal ymweliadau ar y cyd â mangreoedd ledled y sir a bydd y rhain yn parhau dros yr haf."

Dywedodd bargyfreithiwr y cwpwl fod y cyfnod wedi bod yn "anodd iawn" iddynt, a'u bod yn"llawn edifeirwch".