Cannoedd mewn protest gan alw am 'Balesteina rydd'

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y brotest ei chynnal ty allan i bencadlys BBC Cymru yng Nghaerdydd

Mae tua 400 o brotestwyr wedi dod at ei gilydd yng Nghaerdydd gan alw am "Balesteina rydd"

Mae dros 250 o bobl wedi cael eu lladd ers i frwydro ddechrau rhwng Israel a gwrthryfelwyr Palesteinaidd ar Lain Gaza ar 10 Mai yn sgil tensiynau cynyddol yn Nwyrain Jeriwsalem.

Ddydd Gwener fe gytunodd Israel a grŵp Hamas yn Gaza i gadoediad.

Cafodd y brotest ei chynnal gan y mudiad Cardiff Palestine Solidarity Campaign tu allan i bencadlys BBC Cymru yng nghanol y ddinas.

"Mae'n rhaid i hyn stopio," meddai un o'r trefnwyr, Mohammed Hadia, sy'n dweud bod dros 60 o blant ymhlith y rhai a gafodd eu lladd yn Gaza.

"Mae'n rhaid i'r Gorllewin a'r gymuned ryngwladol sefyll lan a dweud mai digon yw digon."

Dywed Israel bod 13 o bobl wedi cael eu lladd yno, gan gynnwys dau blentyn.

Dywed byddin y wlad bod gwrthryfelwyr wedi tanio dros 4,300 o rocedi yn ystod y brwydro diweddaraf.

Pynciau cysylltiedig