Llywodraeth Cymru'n 'ffafrio' timau system Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhuddo o "ffafrio" timau pêl-droed sy'n chwarae yn system pyramid Lloegr, yn ôl ysgrifennydd Uwch Gyngrair Cymru, neu'r JD Cymru Premier.
Gwnaeth Gwyn Derfel y sylwadau wrth gyfeirio at y ffaith bod nifer cyfyngedig o gefnogwyr Abertawe a Chasnewydd yn cael mynd i'r gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth ac Adran Dau y penwythnos yma.
Does dim gemau Uwch Gynghrair Cymru ymhlith naw digwyddiad cynllun prawf Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Derfel wrth BBC Sport Wales: "Fe wnaeth un o'r digwyddiadau prawf dynnu'n ôl ac fe wnaethon ni unwaith yn rhagor gynnig ein gwasanaethau a cawson ni wybod 'na, rydan ni'n sticio i wyth digwyddiad prawf'."
Mae'r digwyddiadau prawf hefyd yn cynnwys gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Albania, a gêm griced Morgannwg yn erbyn Sir Gaerhirfryn yng Ngerddi Sophia, Caerdydd ar 3-6 Mehefin.
Bydd CPD Wrecsam hefyd yn cael derbyn nifer gyfyngedig o gefnogwyr i'r Cae Ras os ydyn nhw'n llwyddo i sicrhau gêm ail gyfle yn y Gynghrair Genedlaethol.
"Mae'n ymddangos yn glir i ni bod llywodraeth ddatganoledig Cymru'n ffafrio'r timau o Gymru sy'n chwarae yn system pyramid Lloegr dros y timau sy'n chwarae yn system pyramid Cymru," meddai Mr Derfel.
"Mae hynny'n anodd iawn i'w stumogi, yn enwedig wedi i ni weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru dros y 14, 15 mis diwethaf.
"Dan ni'n teimlo bod hi'n gyfle sydd wedi ei golli, gan yr awdurdodau hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y prif weinidog, Mark Drakeford "wedi dweud os fydd sefyllfa iechyd cyhoeddus yn dal yn bositif, adeg yr adolygiad tair wythnos nesaf ddechrau Mehefin, byddwn yn ystyried symud i Lefel 1 [y cynllun rheoli Covid-19], a fyddai'n caniatáu cynnal digwyddiadau a gweithgareddau mwy, ar sail canlyniadau'r digwyddiadau prawf sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd."
Ond mae hynny'n rhy hwyr gyda'r Barri'n wynebu Caernarfon ddydd Sadwrn a'r Drenewydd yn wynebu Pen-y-bont ddydd Sul, yn y gemau ail-gyfle i geisio am yr hawl i gystadlu yn Ewrop y tymor nesaf.
Mae'r sefyllfa'n amlygu "anghysondeb mawr... nad sy'n gwneud synnwyr", yn ôl Gwyn Derfel.
"Fe allwn ni wynebu sefyllfa dros yr haf, os mae rhai cefnogwyr yn cael dychwelyd... bydd yna o gwmpas 300 o glybiau na fydd wedi cael digwyddiad prawf ar gyfer hyd at 500 o gefnogwyr, sef yr hyn rydan ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru amdano dro ar ôl tro."
Does dim ras geffylau ychwaith ymhlith y digwyddiadau prawf yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau caniatáu i bobl wylio'r fath rasys yn Lloe
Mae Phil Bell, cyfarwyddwr cyrsiau Ffos Las a Chas-gwent, yn croesawu'r gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru ers dechrau'r pandemig ond mae'n dweud bod y sefyllfa wedi bod yn "heriol".
Ychwanegodd na chafodd reswm gan y weinyddiaeth pam na chawson nhw eu cynnwys ar restr y digwyddiadau prawf.
Ond mae'n dweud ei fod wedi siarad gyda Llywodraeth Cymru ddydd Iau "ac mi gefais argraff y bydd yna newyddion positif ar 4 Mehefin".
Dywedodd bod systemau eisoes yn eu lle i sicrhau eu bod yn cynnal rasys mewn ffordd ddiogel gynted ag y mae hawl i'w hailddechrau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2020