Cefnogwyr Abertawe i ddychwelyd i Stadiwm Liberty
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd o gefnogwyr Abertawe a Chasnewydd yn dychwelyd i'r terasau dros y penwythnos am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Yn Stadiwm Liberty, bydd 3,000 o gefnogwyr yr Elyrch yn eu hôl wrth i Abertawe wynebu Barnsley yn ail gymal gem gynderfynol y gemau ail-gyfle yn y Bencampwriaeth.
Mae gan yr Elyrch gôl o fantais dros yr ymwelwyr wedi'r cymal cyntaf.
Mae'n rhan o gynllun peilot Llywodraeth Cymru sydd am weld cefnogwyr yn dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon yn ddiogel wedi'r pandemig.
Mae'r cefnogwyr lwcus wedi eu dewis ar hap trwy gynllun balot a bydd pob un ohonyn nhw yn gorfod gwisgo mwgwd a dilyn y canllawiau priodol.
Bydd y gic gyntaf am 18:30 ddydd Sadwrn.
Esgyn i'r adran gyntaf yw dymuniad Casnewydd.
Mae ganddyn nhw ddwy gôl o fantais dros Forest Green Rovers wedi cymal cyntaf gemau ail-gyfle'r Ail Adran.
Roedd yna 900 o gefnogwyr cartref yn y gêm, y tro cyntaf i dorf fynychu achlysur chwaraeon yng Nghymru mewn 438 o ddiwrnodau.
Bydd y gic gyntaf, oddi cartref, am 18:30 nos Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021