Cwest yn dechrau yn achos menyw fu farw ar drên
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed sut y bu farw menyw 28 oed o Benarth wedi iddi wyro drwy ffenestr trên oedd yn teithio, a tharo ei phen ar gangen coeden.
Bu farw Bethan Roper o anaf i'w phen ar 1 Rhagfyr 2018 wrth deithio gyda ffrindiau o Gaerfaddon i dde Cymru.
Clywodd y gwrandawiad yn Llys Crwner Avon bod y trên yn teithio ar gyflymder o oddeutu 75mya pan ddigwyddodd y ddamwain ger Twerton, rhwng Caerfaddon a Bryste.
Er gwaethaf ymdrechion gan gyd-deithwyr i roi CPR iddi, cafwyd cadarnhad ei fod wedi marw wedi i'r trên gyrraedd gorsaf Temple Meads, Bryste.
Dywedodd Mark Hamilton, arolygydd gyda'r Gangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffyrdd (RAIB), y dylid arolygu coed bob pum mlynedd, ond bod Network Rail "heb arolygu'r rhan yma o'r rhwydwaith ers 2009".
Mae'r RAIB o'r herwydd, meddai wrth y rheithgor, yn ystyried y ffactor "o bosib yn achosol i'r ddamwain".
Mae'n bosib, meddai, bod yna benderfyniad bod y gangen "ddim yn ddigon i greu risg o fwrw trên oddi ar y cledrau".
Ychwanegodd nad ydy arolygon statudol yn amlinellu'r risgiau i deithwyr trên, ond pe tasai arolwg wedi ei gynnal yn unol â safonau'r diwydiant "fe ellir fod wedi cofnodi coeden â chlefyd".
Dywedodd: "Gan na fu'r goeden yn iach am bum mlynedd cyn y ddamwain, fe allai arbenigwr fod wedi sylweddoli bod angen ei thorri neu ei thocio."
Cyfeiriodd Mr Hamilton wedyn at arwyddion melyn o fewn y trên sy'n rhybuddio teithwyr i beidio pwyso allan o ffenest tra bo'n trên Great Western Railway yn teithio.
Roedd yr arwyddion yn cydymffurfio â safonau diogelwch y cyfnod, meddai, ond mae'r RAIB yn credu bod arwyddion melyn a'r gair "gofal" yn awgrymu "y gellir ei wneud e gyda rhywfaint o ofal".
Mae'r RAIB, fe ychwanegodd, o'r farn bod y lliw coch "yn lliw gwell i gyfleu perygl".
Alcohol
Clywodd y rheithgor bod profion tocsicoleg yn dangos bod Miss Roper â bron ddwywaith y lefel gyfreithiol o alcohol i yrru yn ei gwaed.
Dywedodd y patholegydd Dr Karin Denton wrth y cwest y byddai'r fath lefel "yn amharu ar synnwyr cyffredin a symudiadau" person.
Dywedodd Mark Hamilton "nad yw'n bosib gwybod union effaith alcohol ar Bethan Roper adeg y ddamwain".
Cafodd datganiad ei ddarllen ar ran ei thad, Adrian Roper, a ddywedodd bod ei ferch yn "fenyw ysbrydoledig oedd yn cael ei charu gan lawer".
Dywedodd ei bod yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru, yn gwirfoddoli mewn banc bwyd ac yn cefnogi sawl elusen.
Mae disgwyl i'r cwest bara am ychydig dros wythnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018