Dynes o Benarth, fu farw ar drên, 'wedi taro coeden'

  • Cyhoeddwyd
Bethan RoperFfynhonnell y llun, Cardiff School of Journalism/PA

Mae cwest wedi clywed fod dynes fu farw ar ôl taro ei phen wrth deithio ar drên wedi taro coeden neu gangen.

Bu farw Bethan Roper, 28, wrth deithio o Gaerfaddon i dde Cymru ar 1 Rhagfyr ar ôl bod mewn marchnad Nadolig gyda ffrindiau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 22:10 ar ôl i Ms Roper dderbyn anafiadau difrifol i'w phen.

Fe gadarnhawyd y farwolaeth yn fuan wedyn yng ngorsaf drenau Bristol Temple Meads.

Fe agorwyd cwest i'r farwolaeth yn Llys Crwner Avon ddydd Mercher.

Roedd Ms Roper, o Benarth, yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac yn ymgyrchydd dros hawliau ceiswyr lloches.

Wrth roi teyrnged i'w ferch wythnos ddiwethaf, dywedodd ei thad Adrian ei bod hi'n "mwynhau bywyd i'r eithaf ac yn gweithio'n ddiflino er mwyn gwella'r byd o'i chwmpas."

Bydd y cwest yn parhau ar 20 Mawrth ac mae'r ymchwiliad i amgylchiadau'r farwolaeth hefyd yn parhau.

Yn ogystal, mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn ymchwilio'r digwyddiad.