Eisteddfod T: Enillwyr cystadleuaeth ffotograffiaeth yr adran hŷn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eisteddfod TFfynhonnell y llun, Urdd

Ddydd Llun, cafodd ganlyniadau ffotograffiaeth yr adran iau eu cyhoeddi.

Nawr, dyma dro'r ffotograffwyr 14-25 oed.

Y ffotograffydd Dafydd 'Nant' Owen, o'r cwmni Ffoto Nant, fu wrthi'n beirniadu'r cyfresi o bedwar o luniau a ddaeth i law ar y thema Fy Milltir Sgwâr.

Mae wedi bod yn fraint a phleser llwyr cael beirniadu cystadleuaeth ffotograffiaeth Eisteddfod T eleni, ac roedd y briff - Fy Milltir Sgwâr - yn golygu ges i fy nhywys ar draws Cymru gyfan drwy lygaid crefftus pobl ifanc ein gwlad.

Roedd pob un ohonynt yn dangos rhywbeth clyfar, unigryw a diddorol yn eu lluniau, ac ar ran Eisteddfod T hoffwn ddiolch i bob un wnaeth drio.

Roedd y safon yn wych ac mi gymerodd sawl diwrnod o ddod nôl i'r sgrîn i ddewis y 10 uchaf, heb sôn am y 3 uchaf! Felly i'r rhai sydd ddim wedi dod i'r brig, plîs peidiwch â digalonni a llongyfarchiadau i'r rhai sydd wedi llwyddo!

1af: Joshua Thomas, Coleg Llanymddyfri

Ffynhonnell y llun, Joshua Thomas

I mi, mae ffotograffiaeth yn ddarlun o stori ac mae llun da yn gallu rhoi chi yn y man a'r lle yna yn syth bin, a dyna'n union wnaeth Joshua efo'i luniau.

Dwi'n teimlo fel mod i yno, yn clywed ac arogli'r ffarm, a clhywed y lleisiau a'r hanesion, a mae hynny'n grefft prin iawn mewn ffotograffiaeth.

Mae'r llun o'r ffarmwraig a'r oen yn gyfuniad perffaith o dechneg ac o grefft - y fframio a'r exposure yn wych ac hefyd yn llwyddo dal expression sy'n dweud stori. Hwn oedd y llun wnaeth sefyll allan i mi o'r holl luniau, ac mae Joshua bendant yn haeddu dod yn gyntaf eleni.

Ffynhonnell y llun, Joshua Thomas
Ffynhonnell y llun, Joshua Thomas
Ffynhonnell y llun, Joshua Thomas

2ail: Miriam Hughes, Aelod Unigol Cylch Caerfyrddin

Ffynhonnell y llun, Miriam Hughes

Roedd hi'n agos tu hwnt rhwng Miriam a Joshua, gan fod talent clir gan y ddau, er fod eu lluniau mor wahanol.

Mae lluniau Miriam yn hudolus, ac mae'r lluniau i gyd efo lliw a golau bendigedig a golygu da hefyd.

Maen nhw bendant yn dangos ei milltir sgwâr yn wych, ac yn profi ei thalent fel ffotograffydd.

Ffynhonnell y llun, Miriam Hughes
Ffynhonnell y llun, Miriam Hughes
Ffynhonnell y llun, Miriam Hughes

3ydd: Katie Porter

Ffynhonnell y llun, Katie Porter

Mae 'na lygad a dychymyg anhygoel gan Katie, ac mae llwyddo i feistroli golau fel'ma yn dalent prin iawn.

Dwi wrth fy modd gweld lluniau dyfeisgar, ac mae llwyddo i dynnu pedwar portread o'r un person a'u gwneud nhw'i gyd yn hollol wahanol yn dangos ffotograffydd mor dda ydi Katie.

Mae o hefyd yn ateb y briff mewn ffordd wahanol hefyd, lle yn ystod y cyfnod clo, 'da ni wedi gweld mwy ar ein cartrefi a'r rheiny 'da ni'n byw efo nhw gymaint mwy na dim byd arall.

Ffynhonnell y llun, Katie Porter
Ffynhonnell y llun, Katie Porter
Ffynhonnell y llun, Katie Porter

Llongyfarchiadau un ac oll!

Hefyd o ddiddordeb: