'Ces wybod bod canser ar fy mab mewn maes parcio'
- Cyhoeddwyd
Dywed tad a gafodd wybod mewn maes parcio ysbyty bod ei blentyn bach yn dioddef o lewcemia bod rheolau Covid yn "hynod greulon".
Mae Carson Josephson angen triniaeth gyson yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd ond mae'r cyfyngiadau yn golygu mai dim ond un rhiant sy'n cael mynd gydag ef.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y canllawiau yn rhoi "hyblygrwydd" i ysbytai i ganiatáu ymweliadau.
Cafodd Carson, sy'n wreiddiol o Sir Gâr, ddiagnosis o lewcemia myeloid aciwt ar ddechrau'r cyfnod clo cyntaf.
Bu'n rhaid iddo gael trawsblaniad mêr esgyrn ym Mryste ym mis Hydref.
Ers hynny mae wedi bod yn cael triniaeth ac archwiliadau mewn ysbyty yng Nghaerdydd.
Dywed ei dad Jason bod hi'n andros o anodd peidio cael mynd i mewn yn gwmni i'w fab a'i wraig.
"Mae'n sefyllfa hynod o greulon lle nad yw dau riant yn cael cefnogi eu plant," meddai Jason am y rheolau sy'n gorchymyn mai un rhiant sy'n cael mynd mewn, dolen allanol.
Dywed ei fod yn gorfod disgwyl y tu allan am y newyddion diweddaraf am gyflwr ei fab.
Ond mae hawl gan bob bwrdd iechyd wyro oddi ar y rheolau os ydyn nhw'n teimlo bod y budd a geir yn sgil yr ymweliad yn fwy na'r risg o gael Covid.
Ychwanegodd Jason bod eistedd mewn maes parcio ysbyty yn disgwyl am newyddion am gyflwr iechyd ei fab "fel bod mewn cell carchar".
'Chwalu yn llwyr'
Cafodd wybod bod gan ei fab, sydd bellach yn 19 mis oed, ganser drwy alwad ffôn gan ei wraig. Roedd ef y tu allan i'r ysbyty a hithau y tu mewn.
"Mi wnaeth fy newyddion fy chwalu yn llwyr - doeddwn i ddim yn gallu dychmygu sut roedd fy ngwraig yn teimlo," meddai.
"Roeddwn i eisiau mynd i'r ysbyty a chofleidio y ddau ohonyn nhw ond cefais wybod nad oedd gen i hawl.
"Dwi ddim yn gallu dychmygu am boen gwaeth."
Dywed Carrie bod siarad â meddygon am driniaeth y bychan yn anodd a'i bod yn teimlo nad yw'n gallu cyfleu neges yr ymgynghorwyr meddygol i'w gŵr.
"Mae fy ngŵr yn mynd yn ddryslyd iawn - fe fyddai hi gymaint yn haws petai'r ddau ohonom yno.
"Dylai Jason gael yr hawl i weld yr arbenigwr meddygol ac i siarad am gyflwr ei fab. Dyw'r rheol un rhiant ddim yn deg."
Dywed y cwpl ei bod hi'n anodd derbyn y cyfyngiadau pam mae pobl yn cael mynd i dafarndai a bwytai.
"Ddylai'r un rhiant orfod delio gyda hyn ar ei ben ei hun - mae cael bwytai a thafarndai ar agor yn hunanol.
"Ry'n ni'n teimlo ein bod ar ben ein hunain."
Dywed Llywodraeth Cymru bod gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a hosbisau "yr hyblygrwydd i addasu gofynion ymweld ac i fod yn sensitif i sefyllfaoedd unigol".
"Ry'n yn llwyr ddeall ei fod yn gyfnod hynod o anodd a gofidus i rieni a gofalwyr plant sâl. Mae lles plant a phobl ifanc yn ystyriaeth wrth gyflwyno canllawiau," medd llefarydd.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei fod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ond bod eithriadau - rheiny yn ddibynnol ar natur yr apwyntiadau.
"Mae'r mesurau mewn grym er mwyn gostwng risg Covid i gleifion, teuluoedd a staff," medd llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021