Covid: Llai yn marw ond rhybudd newydd am amrywiolyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bu ciwiau hir ar gyfer pigiadau yn Bolton, lle mae'r amrywiad Indiaidd bellach yn ffurfio'r mwyafrif o achosion newyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu ciwiau hir ar gyfer pigiadau yn Bolton, lle mae'r amrywiad Indiaidd bellach yn achosi'r mwyafrif o achosion newydd

Mae achosion o amrywiolyn Indiaidd o coronafeirws wedi'u nodi yng Nghasnewydd, Abertawe a Chaerdydd, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Ychwanegodd Mark Drakeford ei fod yn "iawn i boeni" am yr amrywiad o ystyried y cyflymder yr oedd yn dyblu yn Lloegr.

Hyd yn hyn mae 25 achos o'r amrywiad Indiaidd yng Nghymru.

Oherwydd hynny, mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn annog pobl i barhau'n wyliadwrus a chadw at y rheolau.

Yn fwy cyffredinol, erbyn hyn mae achosion o'r ffliw a niwmonia yn gyfrifol am achosi mwy o farwolaethau yng Nghymru na Covid-19.

Yn y chwech o'r 13 mis diwethaf coronafeirws oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau yng Nghymru, ond erbyn Ebrill fe'i cofnodwyd fel y 18fed achos pennaf dros farwolaethau.

'Hyd at 50% yn fwy trosglwyddadwy'

Ond mae'r pryder mwyaf yn parhau ynglŷn ag effaith posib bydd yr amrywiolyn Indiaidd yn ei gael.

Mae tua 2,967 o achosion o'r amrywiad bellach wedi'u cofnodi ar draws y DU.

Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Wales Live y BBC: "Maen nhw'n bennaf yn ardaloedd dinesig a threfol Cymru - Casnewydd, Abertawe a Chaerdydd."

Ychwanegodd y byddai gan dimau iechyd lleol yn yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio "hyblygrwydd ychwanegol i alw mwy o bobl ymlaen i gael eu brechu".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardaloedd o ogledd Lloegr wedi gweld y niferoedd uchaf o'r amrywiolyn newydd hyd yma

Dywedodd Dr Keith Reid o Fwrdd Iechyd Bae Abertawe bod risg yr feirws yn parhau yn yr ardal.

Wrth i bobl ddechrau cymdeithasu eto, mae'n "debygol iawn y byddwn yn gweld cyfraddau heintio'n cynyddu eto", meddai.

Gyda "nifer fechan" o achosion o'r amrywiolyn wedi eu cofnodi, ychwanegodd bod y timau profi ac olrhain yn "gweithio'n galed i'w atal rhag lledaenu'n bellach".

Fe wnaeth hefyd annog pawb yn yr ardal i fynychu apwyntiadau brechu er mwyn "ceisio dychwelyd i fywyd normal".

Disgrifiad,

Y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: Brechlyn yw'r 'arf gorau' yn erbyn amrywiolyn India

Mae profion a brechiadau brys eisoes wedi'u cyflwyno yn Lloegr mewn ardaloedd lle mae'r amrywiad Indiaidd yn dechrau cydio, fel Bolton a Blackburn.

Yn gynharach ddydd Mercher, awgrymodd Mr Drakeford y gallai'r amrywiad fod hyd at 50% yn fwy trosglwyddadwy na'r math sydd fwyaf amlwg yn y DU.

Bydd gwyddonwyr yn gwybod mwy am y ffigwr yma erbyn yr wythnos nesaf, meddai dirprwy brif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Jonathan Van-Tam ddydd Mercher.

Cartrefi gofal

Dywedodd Mr Drakeford hefyd y byddai mwy o ymweliadau yn cael eu caniatáu mewn cartrefi gofal o ddydd Llun nesaf.

"Bydd mwy o bobl yn gallu ymweld ag unigolion mewn cartrefi gofal, byddwn yn gallu llacio ar beth o'r cyngor cyfredol sy'n cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr y gall pobl eu cael ar unrhyw un adeg i ganiatáu mwy o ymweliadau," meddai.

Ar hyn o bryd gall preswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru gael dau ymwelydd dynodedig a dim ond un ymwelydd dynodedig all ymweld y tu mewn ar y tro.

Ers dydd Llun, mae preswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr wedi cael hyd at bump ymwelydd.

O ran y ffigyrau diweddara gan y Swyddfa Ystadegau roedd yna 35 o farwolaethau o ganlyniad i Covid-19 ym mis Ebrill

Mae hynny yn ostyngiad o 81.5% o'i gymharu â mis Mawrth.

Golygai hyn raddfa o 12.6 o farwolaethau am bob 100,000 o bobl, y raddfa isaf ers mis Medi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol