Anogaeth i bobl beidio talu dirwyon parcio Llangrannog
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-fargyfreithwraig wedi annog pobl sydd wedi cael dirwy mewn maes parcio yn Llangrannog i ymladd a gwrthwynebu unrhyw gamau cyfreithiol gan y cwmni preifat sydd yn ei redeg.
Mae yna bryder cynyddol bod y dirwyon o £100 ym maes parcio preifat y pentref yn niweidio enw da Llangrannog.
Mae'r ddirwy yn gostwng i £60 os ydych chi yn talu yn syth.
Does yna ddim cysylltiad rhwng y maes parcio a chymuned Llangrannog.
Mae'r maes parcio yn eiddo i ddyn busnes o Abertawe, Anthony Ramsey-Williams, a chwmni One Parking Solution o Worthing yng Ngorllewin Sussex sydd yn ei redeg ar ei ran.
Mae camerâu yn cofnodi rhif adnabod ceir wrth iddyn nhw yrru mewn, ac yn cofnodi'r wybodaeth i roi dirwy os nad oes taliad yn cael ei wneud mewn pryd.
Os nad yw'r peiriant yn gweithio, yna mae'n rhaid ffonio rhif ffôn i dalu am barcio neu lawrlwytho ap.
Mae Pwyllgor Lles Llangrannog wedi gosod arwyddion yn rhybuddio pobl fod rhaid talu o fewn 10 munud, neu fe fyddan nhw yn cael dirwy.
Cafodd Sara Powell, sydd wedi hyfforddi fel bargyfreithwraig, ei gwylltio ar ôl derbyn dirwy er iddi dalu am barcio yno.
Penderfynodd y cwmni ddileu'r ddirwy, er ei bod hi wedi parcio yn rhy hir, am ei bod hi wedi gwrthwynebu'r ddirwy yn ffurfiol.
Mae hi nawr yn rhoi cyngor i eraill ar sut i ymladd dirwyon y cwmni ar wefan Pwyllgor Lles Llangrannog.
'Pobl yn ofnus'
"Beth sydd yn gofidio fi gymaint," meddai, "yw bod pobl ddim yn ymwybodol o'u hawliau nhw, ac mae pobl yn talu achos maen nhw'n teimlo eu bod nhw yn bygwth gymaint... ac mae pobl yn ofnus wedyn, neu mae pobl yn anwybyddu oherwydd gwybodaeth anghywir ar y we.
"Fi wedi rhoi post ar Facebook yn dweud dyma'r math o lythyr gallwch chi anfon nôl i'r cwmni.
"Y broblem fwyaf ydy'r 10 munud o grace period. Mae'r camerâu yn gweld eich manylion car chi a dyna pryd mae'r cloc yn dechrau ticio. Mae gyda chi 10 munud wedyn i brynu tocyn."
Pan osodwyd peiriant talu ac arddangos yn 2019, roedd yn dibynnu ar bŵer solar.
Yn dilyn cwynion niferus nad oedd y peiriant yn gweithio, fe osodwyd offer newydd a chysylltiad Wi-Fi fel bod pobl yn medru talu drwy'r we. Ond parhau mae'r cwynion am y maes parcio a'r cwmni.
Dywed y cwmni bod ffioedd yn cael eu codi yn unol â Chod Ymddygiad Cymdeithas Barcio Prydain.
Bygwth achos llys ond 'dwi wedi talu!'
Cafodd Carwen Davies ddirwy er mae'n dweud ei bod hi wedi cael cadarnhad ar ei chyfrif banc ar-lein ei bod hi wedi talu'r costau parcio nôl yn haf 2019.
"Fe wnaeth y ffôn pingio i ddweud bod taliad wedi mynd trwyddo ar ap y banc. Rhai misoedd wedyn ges i lythyr yn dweud fy mod i heb dalu, yn gofyn am £60.
"Dyma fi'n anfon screenshot o'r taliad banc yn dangos y dyddiad a'r amser. Ddaru nhw anfon nôl a dweud bod e'n insufficent evidence."
Erbyn hyn, mae Ms Davies wedi derbyn llythyrau yn ei bygwth gydag achos llys posib.
"Ges i ddau lythyr gan y cwmni yn dweud bod nhw'n mynd anfon y bailiffs o gwmpas ac yn gofyn am £273," meddai.
"Mae costau wedi mynd ar ben hynny ac wedi codi'r swm, a'r peth ydy, dwi wedi talu i barcio!"
Mae'r cynghorydd sir lleol, Gwyn James, yn pryderu am yr effaith negyddol mae adolygiadau ar wefannau fel Trip Advisor yn cael ar fusnesau Llangrannog.
Dywedodd: "Mae pobl yn dweud nad yw'r peiriant yn gweithio bob tro a'r broblem fwyaf yw'r camerâu sydd yn tynnu llun ceir yn mynd mewn a mas.
"Ni ddim yn siŵr os ydyn nhw yn gweithio o fewn y gyfraith neu beidio. Mae'n broblem i fi bod nhw'n cael eu dirywio o gwbl. Mae'r rhan fwyaf yn cael y gosb ar gam. Dyw 10 munud ddim yn ddigon.
"Dwi'n cynghori pobl i barcio yn y maes parcio tu allan i'r pentref sydd yn rhad ac am ddim. Mae'n ffordd ruthless o ddirwyo pobl. Dylse fod rhywun yn agosach nac Abertawe neu West Sussex i helpu pobl.
"Mae busnesau yn cael eu niweidio achos fydd pobl yn bennu dod i Langrannog. Mae enw gwael yn mynd mas i'r maes parcio. Trïwch eich gorau i beidio gorfod mynd i'r maes parcio."
Mae Cymdeithas Les Llangrannog wedi neilltuo rhan o'i gwefan i gynghori pobl sydd yn cael dirwyon gan One Parking Solution.
Dywed Dr Kat Dawes yr ysgrifennydd: "Mae e'n le mor groesawgar ond mae pobl yn dweud na fyddan nhw yn dychwelyd.
"Mae'r adolygiadau ar Trip Advisor yn ddychrynllyd. Dyw e ddim byd i wneud gyda'r gymuned leol.
"Ni wedi trio siarad gyda'r perchennog a'r cwmni ond maen nhw'n gwrthod gwneud newidiadau mawr. Mae'r perchennog yn cuddio tu ôl y cwmni."
Ymateb y cwmni
Dywedodd One Parking Solution wrth BBC Cymru bod "ffioedd yn cael eu codi yn unol â'r Cod Ymddygiad".
"Mae'r maes parcio yn defnyddio technoleg ANPR. Does yna ddim bwriad i newid y ffordd mae'n gweithredu," meddai.
"Os ydy ffi parcio heb ei dalu yna fe fydd rhaid mynd ati i ddilyn llwybr cyfreithiol sydd yn arwain at gostau ychwanegol.
"Yn groes i'r hyn mae Ms Powell yn dweud, mae hawl gyda ni i fynnu costau ychwanegol wrth ddwyn achos am fethu â thalu ffioedd parcio.
"Cafodd peiriant newydd ei osod ym mis Mehefin 2020 sydd yn darparu cysylltiad Wi-Fi i gwsmeriaid heb signal ffôn.
"Eiddo preifat yw'r maes parcio. Os ydy pobl am ei ddefnyddio, yna mae yna amodau, ac mae'r amodau hynny i'w gweld yn glir ar arwyddion o gwmpas y maes parcio.
"Os nad yw pobl yn cydymffurfio, fe fydd dirwy yn cael ei roi, ond mae modd i fodurwyr gyflwyno apêl os ydyn nhw yn dymuno gwneud."
Dyw perchennog y maes parcio, Anthony Ramsey-Williams, ddim wedi ymateb i geisiadau BBC Cymru am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
- Cyhoeddwyd13 Mai 2021