Hamdden Ceredigion i agor yn gynt ar ôl 'cyngor diweddaraf'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Canolfan Hamdden Plascrug yn Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes dyddiad ar gyfer ailagor Canolfan Hamdden Plascrug yn Aberystwyth ar hyn o bryd

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud y bydd canolfannau hamdden a phyllau nofio'n agor yn gynt na'r disgwyl ar ôl bod ynghau yn y cyfnod clo diweddaraf.

Roedd y cyngor wedi dweud y byddai canolfannau ynghau am ddau fis arall, er bod cyfleusterau mewn rhannau eraill o Gymru wedi ailagor.

Roedd pobl leol wedi beirniadu'r penderfyniad gan ddweud bod angen ystyried iechyd a lles tymor hir trigolion.

Cyn y newid meddwl, dywedodd yr aelod seneddol lleol Ben Lake ei fod yn siomedig gyda'r oedi, gan alw ar y cyngor i ail-ystyried.

Mewn datganiad pellach ddydd Iau, dywedodd y cyngor y byddai cyfleusterau'n agor yn gynt, "o ganlyniad i'r cyfraddau heintiau cyfredol yn y sir a'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru".

Mae Owain Schiavone yn rhedwr ac yn hyfforddwr athletau yn Aberystwyth.

Cyn coronafeirws, roedd yn defnyddio canolfannau hamdden "dwy, dair, bedair gwaith yr wythnos weithiau".

"Roedd y plant yn defnyddio'r pwll ar gyfer eu gwersi nofio a dwi yn teimlo dros blant yn enwedig mewn tref glan môr fel Aberystwyth," meddai.

"Mae 'na beryglon ynghlwm â hynny wrth gwrs - dydy nofio yn y môr ddim bob amser yn ddiogel, felly mae 'na rywbeth mawr, pwysig yn cael ei golli fan hyn gan y plant.

"Dwi'n derbyn bod y feirws yn lledu lot haws o dan do, ond mae 'na bwynt yn cyrraedd lle mae angen meddwl am yr effeithiau iechyd tymor hir."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Owain Schiavone fod plant yr ardal, yn enwedig, ar eu colled

Erbyn prynhawn Iau, dywedodd y cyngor y byddai rhai sesiynau'n dechrau o 17 Mai, ac yna sesiynau ffitrwydd awyr agored a defnydd o gaeau chwarae yn dechrau o 28 Mai.

Bydd canolfannau hamdden dan do yn Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan ac Ysgol Penglais yn cael ail-ddechrau o wythnos 7 Mehefin, meddai'r datganiad.

Mae Canolfan Hamdden Plascrug yn Aberystwyth bellach wedi ei drosglwyddo'n ôl i'r awdurdod lleol ar ôl cael ei ddefnyddio gan y bwrdd iechyd fel ysbyty maes.

Yn ôl y cyngor, mae cryn dipyn o waith datgomisiynu ac ail-adfer cyn i'r lle allu gweithredu fel cyfleuster hamdden.

Nid oes dyddiad ar gyfer ei ailagor ar hyn o bryd.

'Ddim yn deg'

Un o brif ddiddordebau Joseph Gorman yw nofio ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn cystadlaethau yn y gorffennol.

Mae'n aelod o Glwb Nofio Aberystwyth, ac yn mynychu Ysgol Penweddig.

Fe ddywedodd: "Roedd yn iawn yn y lle cyntaf, ond mae'r pwll wedi bod ar gau ers dros flwyddyn nawr. Mae hynny yn llawer rhy hir.

"Dwi wedi cael fy ngosod lefel yn is na phlant eraill nawr oherwydd bod y pyllau wedi bod ar gau.

"Dyw e ddim yn deg pan dwi'n gweld plant mewn rhannau arall o Gymru yn cael defnyddio'r cyfleusterau.

"Pwll Plascrug yn Aberystwyth yw'r unig bwll addas yng Ngheredigion i gyd sy'n addas ar gyfer hyfforddi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Joseph Gorman yn rhwystredig gyda'r sefyllfa, fel nifer o athletwyr ifanc eraill yr ardal

Mae Canolfan Hamdden Aberteifi yn Ganolfan Brechu Torfol a bydd yn parhau felly cyhyd ag y bo'i hangen ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Yn wreiddiol, fe ddywedodd Cyngor Ceredigion: "Rydym yn cydnabod y gallai'r dyddiadau a ddarperir fod yn hwyrach na'r disgwyl.

"Fodd bynnag, maent wedi'u pennu er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i leihau'r risg o unrhyw gynnydd mewn achosion ac i wneud ein rhan yn adferiad ein sir o'r coronafeirws."

Yn ddiweddarach, ychwanegodd y cyngor bod y dyddiadau wedi eu newid o ganlyniad i'r cyngor diweddaraf a chyfraddau heintio isel.

Dywedodd datganiad: "Mae ailagor yn parhau i ddibynnu ar y ffactor na fydd cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion yn y sir."

Pynciau cysylltiedig