Morgannwg: Batio'n anodd i'r ddau dîm yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Marnus Labuschagne oedd prif sgoriwr Morgannwg

Fe ddisgynnodd y wicedi rif y gwlith ar ddiwrnod cynta'r gêm bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Sir Gaerhirfryn ddydd Iau.

Wedi i Forgannwg alw'n gywir a dewis maesu, fe gafon nhw lwyddiant cynnar.

Ar un cyfnod roedd yr ymwelwyr yn 86 am 6 cyn iddyn nhw gael rhediadau hwyr a chyrraedd cyfanswm o 173 yn eu batiad cyntaf.

Er i Forgannwg gael dechrau gwell i'w batiad cyntaf nhw, fe aeth pethau'n waeth wrth i'r diwrnod ddirwyn i ben.

Er bod partneriaeth rhwng Marnus Labuschagne a Joe Cooke eu gweld yn cyrraedd 74 am 1 ar un pwynt, pan aeth Labuschagne am 44 fe aeth hi'n draed moch braidd.

Erbyn i'r chwarae ddod i ben roedd Morgannwg wedi cyrraedd 150 am 9 wiced.

Fe fyddan nhw'n dechrau'r ail ddiwrnod 23 y tu ôl i Sir Gaerhirfryn gydag un wiced yn weddill.

Pynciau cysylltiedig