Dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan goeden

  • Cyhoeddwyd
Bethan RoperFfynhonnell y llun, Cardiff School of Journalism/PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ms Roper yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac yn ymgyrchydd dros hawliau ceiswyr lloches

Mewn rheithfarn naratif, mae cwest wedi dod i'r casgliad bod menyw o Benarth wedi marw ar ôl iddi bwyso allan o ffenest trên a tharo ei phen ar gangen coeden.

Roedd Bethan Roper, 28 oed, yn teithio adref ar ôl ymweld â Chaerfaddon gyda ffrindiau ar 1 Rhagfyr 2018.

Clywodd y cwest fod Miss Roper wedi dioddef anafiadau angheuol i'w phen yn ystod y digwyddiad yn Twerton, rhwng Caerfaddon a Bryste.

Daeth y rheithgor yn Llys y Crwner i gasgliad naratif gan fwyafrif o wyth i un ar ôl trafod am chwech awr.

Clywodd y cwest fod Bethan Roper wedi bod yn yfed gyda'i ffrindiau cyn iddyn nhw fynd ar drên yng Ngorsaf Sba Caerfaddon tua 22:00.

Roedden nhw'n sefyll mewn ardal rhwng dau gerbyd pan dynnodd un o ffrindiau Miss Roper y ffenestr i lawr a phwyso allan o'r trên a oedd yn teithio ar gyflymder o 75mya.

Tua 30 eiliad yn ddiweddarach, gwnaeth Miss Roper yr un peth, ond clywodd y cwest iddi gael ei tharo ar ei phen gan gangen coeden oedd wedi ei heintio.

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y cwest nad oedd y goeden yn iach, ac y gallai fod cyfle i'w thorri yn gynharach

Dywedodd arolygydd Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd, Mark Hamilton, wrth y rheithgor y dylid cynnal archwiliadau coed gorfodol bob pum mlynedd, ond nad oedd Network Rail "wedi archwilio'r rhan hon o'r rhwydwaith ers 2009".

Dywedodd Mr Hamilton, bod y Gangen Ymchwilio yn ystyried hyn "o bosib yn achosol i'r ddamwain".

Dywedodd Mr Hamilton y gellir barnu bod y gangen yn "annigonol i beri risg o ddod oddi ar y cledrau", ac ychwanegodd nad yw archwiliadau gorfodol yn nodi'r risgiau i deithwyr ar y trên.

Ychwanegodd, pe bai archwiliad wedi'i gynnal yn unol â safon y diwydiant, yna "efallai y byddai'r goeden heintiedig wedi'i nodi".

"O ystyried bod iechyd y goeden yn wael am bum mlynedd cyn y ddamwain, efallai y byddai arbenigwr wedi sylweddoli bod angen torri'r goeden", meddai.

Damwain 'rhagweladwy'

Dywedodd Julian Forbes-Laird, ymgynghorydd coed, wrth y cwest y gallai archwiliadau mwy rheolaidd o goed ar hyd y lein fod wedi atal y ddamwain.

Dywedodd Mr Forbes-Laird fod y ddamwain yn "rhagweladwy" yn ei farn ef oherwydd bod angen torri rhannau eraill o'r goeden oherwydd afiechyd.

Clywodd Llys Crwner Avon fod gwasanaeth Great Western Railway o orsaf Paddington, Llundain i Gaerwysg yn defnyddio cerbydau gyda ffenestri 'droplight' sy'n galluogi teithwyr i ddefnyddio'r bwlyn y tu allan i'r drws i adael y trên.

Clywodd y rheithgor fod yr arwyddion o fewn trên Great Western Railway yn cydymffurfio â safonau diogelwch ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bethan Roper ar ei ffordd adref gyda ffrindiau ar ddiwedd diwrnod allan yng Nghaerfaddon

Roedd Miss Roper, a oedd yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac wedi gwirfoddoli gyda llawer o elusennau, wedi teithio i Gaerfaddon gyda thri ffrind.

Roedden nhw'n dychwelyd adref ar ôl diwrnod o siopa ac wedi cael "cryn dipyn o ddiodydd", yn ôl ffrind Miss Roper, Chanelle Hagland.

Dywedodd Miss Hagland wrth yr heddlu nad oedden nhw "wedi meddwi ac yn afreolus".

Dywedodd yr Uwch Grwner, Maria Voisin ei bod yn fodlon nad oedd angen adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol, a mynegodd ei chydymdeimlad ag Adrian Roper, tad Miss Roper, a gynrychiolodd ei ferch yn ystod y gwrandawiad.

Pynciau cysylltiedig