Buddugoliaeth gyfforddus i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Gorffennodd Marnus Labuschagne ar 63 heb fod allan wrth i Forgannwg drechu Sir Gaerhirfryn ym Mhencampwriaeth y Siroedd ar y trydydd diwrnod o chwarae.
Fe ddechreuodd Morgannwg y diwrnod yn gwybod y byddai 51 o rediadau yn sicrhau buddugoliaeth yng Ngerddi Sophia.
Dim ond un wiced wnaeth gwympo wrth i'r tîm cartref gyrraedd y nod.
Syrthiodd wiced Kiran Carlson am 16 o rediadau, gyda Morgannwg 42 yn brin o'r targed.
Ond llwyddodd Labuschagne a Chris Cooke (17 heb fod allan ) i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Buddugoliaeth i Forgannwg o chwe wiced, gan sicrhau 19 o bwyntiau, gyda Sir Gaerhirfryn yn cael tri phwynt.
Mae Morgannwg yn parhau yn y pedwerydd safle yng ngrŵp tri.
Sir Gaerhirfryn: 173 & 164
Morgannwg: 150 &137-3