Canslo gêm ola'r Gweilch yn sgil achosion Covid positif

  • Cyhoeddwyd
Gweilch yn ConnachtFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i bawb wnaeth deithio gyda charfan y Gweilch i herio Connacht y penwythnos diwethaf hunan-ynysu

Mae gêm ola'r tymor i'r Gweilch wedi cael ei chanslo wedi i dri achos positif o Covid-19 ddod i'r amlwg ymysg y garfan.

Roedd y rhanbarth i fod yn herio Benetton ddydd Sadwrn, ac mae canslo'r gêm yn golygu y bydd yr Eidalwyr yn mynd trwodd i ffeinal Cwpan Yr Enfys y Pro14 yn erbyn un o dimau De Affrica sydd eto i'w benderfynu.

Dywedodd y Pro14 mewn datganiad bod "y Gweilch yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC)" ar beth fydd yn digwydd nesaf.

Yn ôl y trefnwyr mae ICC wedi dyfarnu bod yn rhaid i bawb wnaeth deithio gyda charfan y Gweilch i herio Connacht y penwythnos diwethaf hunan-ynysu.

"Gyda dim penwythnosau yn weddill, ni fydd y gêm yn cael ei haildrefnu," meddai'r gynghrair.

Pynciau cysylltiedig