Y tad a'r mab sy'n mynd i Baku
- Cyhoeddwyd
Fydd Gwilym Boore o Gaerdydd ddim yn colli cwsg os na fydd ei fab Gethin yn hedfan i Zante i ddathlu diwedd ei arholiadau Lefel A yr haf hwn.
Ond mae'r ddau'n gytûn ar un trip - eu bod yn hedfan i Baku yfory i wylio Cymru'n herio'r Swistir yn y Stadiwm Olympaidd ddydd Sadwrn 12 Mehefin.
Mae'r ddau ymysg cefnogwyr y Wal Goch sydd wedi penderfynu teithio yno yn erbyn cyngor Llywodraeth Cymru, gydag Azerbaijan ar y rhestr 'oren'. Bydd yn ofynnol i bobol hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl dychwelyd a gwneud profion Covid-19.
Mae cyrraedd Baku wedi bod yn freuddwyd fawr i Gethin sydd newydd gwblhau ei arholiadau Lefel A: "Mae'r arholiadau newydd orffen, ac o'r diwedd, ar ôl cryn ansicrwydd, ry'n i'n mynd i Baku. Dwi methu aros."
Ffwti yn y gwaed
Mae cariad at bêl-droed yn llifo'n y gwaed. Tair mlwydd oed oedd Gethin pan wyliodd ei gêm ryngwladol gynta, Cymru v Slovakia yn 2006. Roedd yn gêm fawr i Gethin, ond yn gêm fwy i'w arwr Gareth Bale a sgoriodd ei gôl gynta' i Gymru: "Mae Bale wedi bod yn arwr i fi ers hynna."
Mae'n fyw yng nghof ei dad hefyd.
"Dwi'n cofio clywed Gethin yn ei wely'n gwneud sylwebaeth ar y gôl," meddai Gwilym. "Oedd e fod cysgu, a dyna lle roedd e'n sylwebu. Oll ro'n i'n clywed oedd 'a Bale yn rhoi y gic, a mae'r dorf yn mynd yn wyllt. Gollon ni, ond i fi, roedd e'n foment arbennig."
Fesul cenhedlaeth, mae'r bêl gron wedi rolio yn nheulu'r Boore, a mae gan Gwilym atgofion melys o wylio gemau gyda'i dad a'i dad-cu: "Oedd Dad yn mynd ȃ fi i wylio Cardiff City, a nhad-cu o Loegr yn cefnogi Villa."
Yr un wefr ȃ'i dad a'i gyn deidiau mae Gethin yn teimlo.
"Roedd Dad yn arfer mynd ȃ fi i Ninian Park," meddai. "Ro'n i'n Ninian am y tro cynta yn bum diwrnod oed. Wnaeth y tripiau i Ninian wneud fi'n hooked efo Caerdydd, yna Cymru."
Euro 2016
Roedd y ddau'n ffodus i wylio gemau Cymru o'r stadiwm yn Ffrainc nôl yng ngemau Euro 2016. 13 mlwydd oed oedd Gethin, a roedd gadael i'w fab fethu mis o'r ysgol er mwyn gwylio Cymru'n ddewis hawdd i Gwilym. "Bydden ni'n caniatau i Gethin fethu arholiadau Lefel A ar gyfer hwnna," pryfociai. "Wnes i aros 35 mlynedd tan hynna. Roedd e'n gyfnod arbennig i hanes ein gwlad nid jest i hanes pêl-droed."
Meddai Gethin: "'Yr uchafbwynt i fi oedd curo Rwsia 3-0 yn Toulouse. Roedd y perfformiad yn anhygoel, a wedyn yn y diwedd ennill y grŵp a churo Lloegr."
Darogan Euro 2020
Mae gan Gethin bob ffydd yn nhȋm Cymru wrth i Euro 2020 nesáu. "Gyda chwaraewyr fel Bale, Daniel James a Moore ar eu gorau fydd Cymru'n nocio unrhyw dȋm," meddai. "Mae Twrci'n dȋm da, mae'r Swistir yn dȋm da ac mae'r Eidal yn un o'r goreuon, ond os bydd y chwaraewyr i gyd yn ffit, gallai Cymru fynd yn bell iawn."
Meddai Gwilym: "Os gawn ni'r ysbryd yn iawn - allwn ni gyflawni pethe... Mae'n rhaid i bob chwaraewr fod ar ben ei gêm."
Y Wal Goch
Chwaraeodd Cymru ei gêm gyntaf gartref o flaen cefnogwyr y Wal Goch ddydd Sadwrn dwytha mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Albania, yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae Gwilym a Gethin yn ysu i weld y cefnogwyr yn dychwelyd i'r stadiwm yn rheolaidd.
"Mae'r angerdd sy'n y stadiwm pan mae Cymru'n chwarae a'r anthem i'w chlywed yn sbeshal, dwi'n methu e gymaint," meddai Gethin.
Meddai Gwilym: "Yr arwydd mwya o lwyddiant ydi os yw pobl yn mynd i'r geme, doedd pobl ddim isio mynd o'r blaen. Dwi'n hapus fod pobl yn ymddiddori yn y tȋm cenedlaethol, ond yn fwy fyth, yn cefnogi'r tȋm cenedlaethol."
Euro 2020 ar Cymru Fyw: