Euro 2020: Profiad ein gohebydd yn Baku - hyd yma!
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy gêm gyntaf Cymru yn Euro 2020 yn Azerbaijan dyma ychydig mwy o argraffiadau ein gohebydd ni, Carl Roberts.
Tra'r oeddwn i'n aros i siarad ar Radio Wales fore Mercher roeddwn i'n gwrando ar Claire Summers yn holi dyn o Gymdeithas Bêl-droed Azerbaijan am syniadau o beth allai cefnogwyr Cymru ei wneud tra'n ymweld â'r ddinas.
Ei gyngor o oedd mynd i nofio ym môr y Caspian ac ymweld â'r hen ddinas yma.
Dwi'n gallu gweld y môr drwy ffenest fy ystafell ac mae'n edrych yn hyfryd, ond mae'r cyn-ymosodwr Iwan Roberts wedi bod yn rhedeg ar lan y môr a'i gyngor o oedd i aros allan o'r dŵr.
Mae Iwan wedi bod yn rhedeg yn gyflym iawn yma yn Baku - yn rhannol oherwydd ddydd Mercher roedd tri chi gwyllt yn rhedeg ar ei ôl o.
Nos Iau aeth criw ohonan ni i'r hen ddinas am y tro cynta, ac fel welson ni gefnogwyr Cymru sydd wedi teithio i weld y tîm yn chwarae yn Euro 2020.
Roedd y bechgyn ifanc yma o Aberdâr wedi methu teithio i Ffrainc yn 2016 oherwydd eu bod nhw'n gwneud arholiadau TGAU - felly roedden nhw'n benderfynol o ddod tro yma.
Pan o'n i'n siarad gyda'r hogiau roedd Cymru ddim yn teimlo mor bell i ffwrdd - ond fe ges i fy atgoffa fod Baku yn wahanol iawn i'r famwlad pan gerddodd dyn heibio yn cario mwnci bach.
Heddiw a hithau'n ddydd Gwener dwi wedi bod yn y Stadiwm Olympaidd lle fydd y gêm yn erbyn y Swistir yfory a hynny i holi Gareth Bale a Robert Page.
Yn ôl Page mae o'n 100% yn sicr o'i dîm ar gyfer y gêm yfory, ond yn amlwg doedd o ddim am rannu pwy fydd yn chwarae gyda fi.
Rydw i hefyd wedi gweld lle fyddai'n gwylio'r gêm fory - o ochr y cae lle fyddai'n gwneud cyfweliadau cyn ac ar ôl y gêm.
Mae'r stadiwm yn anferth ac roedd hi'n dipyn o wefr clywed yr anthem yn cael ei chwarae dros yr uchelseinydd wrth i'r trefnwyr gwblhau y paratoadau ar gyfer y gêm rhwng Cymru a'r Swistir.
Bydd clywed y chwaraewyr a chefnogwyr Cymru yn canu'r anthem fory hyd yn oed yn well!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021