Mae taith Euro 2020 wedi dechrau!
- Cyhoeddwyd
Gyda thîm Cymru wedi cyrraedd Azerbaijan ar gyfer gemau agoriadol Euro 2020, mae ein gohebydd ni, Carl Roberts wedi rhoi ei argraffiadau o ddinas Baku, a'r daith draw yna.
Y tro diwetha' i fi deithio ar awyren oedd i fynd i Amsterdam i weld yr enwau yn dod allan o'r het ar gyfer grŵp Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ddechrau mis Mawrth 2020.
Dwi'n cofio holi Ryan Giggs am ei gynlluniau ar gyfer Baku ac roedd Euro 2020 dim ond tri mis i ffwrdd.
Yn amlwg mae tipyn wedi newid yn y cyfnod ers hynny - yn bersonol i Ryan Giggs ac i'r trefniadau ar gyfer Euro 2020.
Ac oherwydd Covid-19 mae tipyn wedi newid yn y meysydd awyr hefyd wrth i fi deithio ar awyren am y tro cynta' ers Mawrth y llynedd - y tro yma i weld Cymru yn chwarae yn Euro 2020 - yn 2021!
Cyn teithio roedd angen prawf Covid - ac ar ôl canlyniad negatif o'n i'n rhydd i hedfan o Heathrow i Kiev, cyn newid yno i fynd i Baku.
Roedd hi'n dipyn o daith, ac roedd rhaid gwisgo mwgwd yr holl ffordd - peth da efallai i'r rhai sy'n cysgu ar awyren gyda'u cegau yn lled agored (fel cyn-flaenwr Cymru Iwan Roberts sy'n rhan o dîm sylwebu Chwaraeon Radio Cymru).
Erbyn i ni gyrraedd Baku roedd hi bron yn hanner nos pan gyrhaeddodd y bws i'n cludo ni i'r gwesty - un bws i ni, a fan mawr ar gyfer ein bagiau.
Doeddwn i ddim yn sicr y byddwn ni'n gweld y bagiau byth eto ar ôl i'r fan ddiflannu allan o'r maes awyr fel y ceir Fformiwla Un oedd yn rasio o gwmpas y ddinas dros y penwythnos.
Ond dwi'n falch o dd'eud fod y bagiau dillad wedi cyrraedd y gwesty a dwi ddim yn gorfod benthyg par o drowsus gan gyn-chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones (mae o'n 6'4'' a dwi yn 5'9'').
Mae'r gwesty yn un modern a dwi'n gallu gweld Môr y Caspian drwy'r ffenest o'r ystafell ar y nawfed llawr.
Er bo ni 3,000 o filltiroedd o adre ma' yna ambell atgof o adre, ma' na siop goffi Starbucks rownd y gornel.
Ond nid pobman yn Baku sy'n fodern. Mae Cymru yn ymarfer yn hen stadiwm y tîm cenedlaethol, sef Stadiwm Weriniaethol Tofiq Bahramov.
Pwy yw Tofiq Bahramov? Wel fo oedd y llumanwr yn rownd derfynol Cwpan y Byd 1966 a benderfynodd fod ail gôl Geoff Hurst i Loegr wedi croesi'r llinell ar ôl dod yn ôl oddi ar y trawst.
Roedd o'n arwr yn Wembley yn 1966 ac mae o'n arwr yn Baku yn 2021.
A bore ma' es i wylio Cymru yn ymarfer yn y stadiwm 24 awr ôl iddyn nhw gyrraedd Baku.
Mae'n boeth yma - 25C heddiw - a bydd y garfan yn elwa o ymarfer yn y gwres cyn y gêm agoriadol yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021