Mwy o bobl yn gymwys i roi gwaed wrth i'r rheolau newid
- Cyhoeddwyd
Bydd Carl a Martin, sy'n gwpl priod, yn cael rhoi gwaed o ddydd Llun ymlaen - carreg filltir bwysig, medd cymunedau LGBT+.
Tan nawr mae dynion sy'n cael rhyw gyda dynion eraill wedi gorfod aros dri mis cyn rhoi gwaed.
O ddydd Llun fe fydd unrhyw un yn gallu rhoi gwaed os ydynt wedi bod gyda'r un partner yn ystod y tri mis diwethaf.
Ond bydd unrhyw un sydd wedi cael rhyw yr anws gyda phartner newydd neu fwy nag un partner yn ystod y tri mis diwethaf - beth bynnag eu rhywedd neu rywioldeb - ddim yn cael rhoi gwaed am dri mis.
'Yn falch'
Dywed Carl o Drecelyn yng Nghaerffili: "Rwy' wrth fy modd fy mod wedi cael apwyntiad i roi gwaed yn sgil y newidiadau.
"Mae hi ond yn deg bod ymddygiad pawb yn cael ei drin yr un fath - beth bynnag yw rhywedd eu partner."
Ychwanegodd ei ŵr, Martin: "Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig i Carl a fi.
"Gyda'n gilydd ry'n yn gallu gwneud cyfraniad a all achub bywydau cleifion. Fe gafodd fy nhad sawl trallwysiad gwaed ac rwy' wastad yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth y rhai sy'n rhoi gwaed.
"Mae fy nith hefyd wedi cael sawl trallwysiad gwaed yn ystod ei thriniaeth ar gyfer lewcemia - mae hi bellach yn well a dwi'n edrych ymlaen i helpu rhywun fel hi."
Mae Shane Andrews o Gaerdydd, sydd yn ymgyrchydd LGBT, hefyd wedi cael apwyntiad i roi gwaed am y tro cyntaf.
"Rwy'n ei theimlo'n fraint cychwyn ar y daith o arbed bywydau gan roi gwaed ar Ddiwrnod Rhyngwladol Rhoi Gwaed ac yn ystod mis Pride," meddai.
Dywed Gwasanaeth Gwaed Cymru bod angen i 350 o bobl y dydd roi gwaed er mwyn darparu gwaed i 20 ysbyty.
Dywed cyfarwyddwr y gwasanaeth Alan Prosser: "Ry'n yn falch o nodi Diwrnod Rhoi Gwaed y Byd drwy groesawu mwy o bobl i roi gwaed a phlatennau.
"O heddiw ymlaen mae mwy o bobl yn gallu rhoi gwaed - diolch i drefn newydd a thecach sy'n nodi bod mwy o bobl yn gymwys.
"Nid y gwasanaethau gwaed sy'n gosod y rheolau am bwy sy'n cael rhoi ond ry'n yn falch bod ein gwaith gyda grŵp llywio FAIR wedi arwain at y rheolau newydd."
Dywed Pennaeth Nyrsio Gwaed Cymru, Zoe Gibson: "Mae diogelwch cleifion yn gwbl allweddol i bob dim ry'n yn ei wneud. Mae pob gwaed sy'n cael ei roi yn cael ei brofi'n helaeth am heintiadau cyn cael ei anfon i ysbytai er mwyn sicrhau diogelwch y cyflenwad gwaed."
Croesawu ymchwiliad cyhoeddus
Un sy'n gwerthfawrogi mesurau diogelwch o'r fath yw Bronwen Cruddas o Ffos y Gerddinen ger Caerffili, wyres i ddyn a gafodd waed wedi ei heintio.
Bu farw yn ei chwedegau ddeg mlynedd yn ôl a dywed ei wyres ei fod yn ei golli bob dydd. Dywed hefyd ei bod yn gwerthfawrogi bod ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i'r mater.
Dywed Blood Equality Wales: "Mae'n dda gweld y newidiadau am bwy sy'n gymwys i roi gwaed yn dod i rym - yn enwedig wedi i gymaint o bobl o'r gymuned LGBT+ ymgyrchu am y newidiadau am gyfnod mor hir.
"Mae'r newidiadau i'w croesawu ond mae dal tipyn o waith i'w wneud er mwyn sicrhau cydraddoldeb lwyr."
Mae Davinia Green, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, hefyd yn croesawu'r newidiadau ac yn dweud fod y newid yn "gam cyntaf sy'n sicrhau bod asesiad risg yn cael ei wneud ar sail unigolyn".
Pa gwestiynau?
Cyn rhoi gwaed, bydd hi'n ofynnol i bobl gwblhau ffurflen wirio a fydd yn gofyn, a ydych yn ystod y tri mis diwethaf:
Wedi cael rhyw gyda rhywun sydd wedi cael siffilis, hepatitis neu HIV?
Wedi derbyn arian am gyffuriau neu ryw?
Wedi cael rhyw gyda rhywun sydd wedi derbyn arian am gyffuriau neu ryw?
Wedi cael rhyw gydag unrhyw un sydd wedi chwistrellu cyffuriau?
Wedi cymryd proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) neu broffylacsis ôl-gysylltiad (PEP) fel amddiffyniad rhag HIV?
Wedi defnyddio cyffuriau yn ystod rhyw (ac eithrio canabis neu gyffuriau at ddibenion rhywiol)?
Os yw'r ateb i un o'r cwestiynau uchod yn gadarnhaol ni fydd modd rhoi gwaed am gyfnod.
Daw'r newidiadau wedi adolygiad gan grŵp llywio FAIR sydd o blaid asesiad risg unigol - grŵp sy'n cael ei arwain gan Wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniad y GIG. Fe ddaeth y grŵp i gasgliad bod y newidiadau yn decach ac maent yn dweud mai'r hyn sy'n bwysig yw sicrhau diogelwch y cyflenwad gwaed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020