Cwpan yr Enfys y Pro 14: Scarlets 28 -28 Caeredin

  • Cyhoeddwyd
Mewnwr Cymru Kieran Hardy'n sgorio cais agoriadol y gêmFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mewnwr Cymru Kieran Hardy'n sgorio cais agoriadol y gêm

Cafodd y Scarlets eu hatal rhag sicrhau buddugoliaeth yng ngêm gyntaf Parc y Scarlets o flaen torf mewn 16 mis wedi i Gaeredin frwydro i unioni'r sgôr yng Nghwpan yr Enfys y Pro 14.

Roedd hi'n edrych yn addawol tu hwnt wedi dau gais Kieran Hardy ac un yr un gan Tom Rogers a Dafydd Hughes.

Roedd yna ddau drosiad yr un hefyd gan Dan Jones a Sam Costelow.

Ond fe sgoriodd yr ymwelwyr ceisiadau rhif tri a phedwar eu hunain ym mhum munud olaf y gêm gan gau'r bwlch rhwng y ddau dîm.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd cyfle cyntaf cefnogwyr i wylio'r tîm ym Mharc y Scarlets ers Chwefror 2020

Roedd yna tua 1,000 o gefnogwyr ym Mharc y Scarlets.

Hon oedd gêm olaf y Scarlets o'r tymor - a'r gyntaf o flaen torf yn Llanelli ers Chwefror 2020, wedi i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau coronafeirws.

Roedd 1,300 o docynnau ar gael mewn stadiwm sydd â lle ar gyfer 14,500 o bobl.

Roedd yn gyfle i gefnogwyr ffarwelio â Pieter Scholtz, Jac Morgan ac Uzair Cassiem wedi eu gêm olaf cyn gadael y rhanbarth.

Pynciau cysylltiedig