Rhybudd am stormydd ar gyfer rhan helaeth o'r wlad

  • Cyhoeddwyd
MelltFfynhonnell y llun, Stephen Davies Photography

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai rhannau helaeth o Gymru wynebu "stormydd dwys o law taranau" dros y dyddiau nesaf, ynghyd â mellt, cenllysg a glaw trwm iawn.

Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol i 16 o siroedd Cymru, ac mae disgwyl i ardaloedd gorllewinol osgoi'r amodau gwaethaf.

Ond mae'r arbenigwyr yn dweud bod "cryn ansicrwydd" ynghylch union leoliadau ac amseru'r tywydd gwael dan y rhybudd sy'n dod i rym am 18:00 ddydd Mercher tan hanner nos, nos Iau.

Fe allai'r amodau achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr.

Fe allai 30mm o law syrthio mewn awr mewn rhai mannau, a hyd at 50mm o fewn dwy i dair awr, er bod disgwyl i gawodydd o'r fath fod "yn eithaf ynysig".

Mae'r rhybudd yn berthnasol i siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tydfil, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Y Fflint a Wrecsam.

Pynciau cysylltiedig