Buddugoliaeth rwydd o saith wiced i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
Nick SelmanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Nick Selman yn disgleirio i Forgannwg yn y T20 Blast yn erbyn Essex

Roedd hi'n fuddugoliaeth rwydd o saith wiced i Forgannwg yn erbyn Essex yng nghystadleuaeth y T20 Blast ddydd Sul.

Roedd can rhediad Nick Selman a Marnus Labuschagne rhyngddynt mewn 13 pelawd wedi gwneud y targed o 154 yn un rhwydd iawn i'w gyrraedd i'r tîm Cymreig.

Fe ddechreuodd Essex yn dda wrth i Will Buttleman sgorio 36 yn ei ail gêm i'r tîm. Roedd yr ymwelwyr wedi sgorio 68 rhediad am un wiced mewn wyth pelawd.

Ond fe newidiodd Morgannwg eu bowlwyr, ac fe gyfyngwyd ar fatwyr Essex, ac roedd eu sgôr yn isel, 153 am chwech ar ddiwedd yr 20 pelawd.

Rhoddodd perfformiad Selman a Labuschagne fuddugoliaeth felly i Forgannwg gyda 156 rhediad am 3 wiced mewn 19 pelawd.

Dim ond pedair awr ar hugain o saib fydd i'r tîm gan eu bod yn wynebu Surrey nos yfory yn yr Oval yn Llundain.

Essex 153 am 6 (20 pelawd), Morgannwg 156 am 3 (19 pelawd).

Pynciau cysylltiedig