Ateb y Galw: Y sylwebydd chwaraeon Nic Parry
- Cyhoeddwyd
Y sylwebydd chwaraeon Nic Parry sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Mae Nic Parry yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Sgorio ar S4C ac hefyd yn gweithio i'r BBC fel sylwebydd a chyflwynydd. Dros yr wythnosau nesaf bydd Nic yn sylwebu ar gemau Cymru yn Euros 2020 ar S4C. Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae bellach yn byw yn Llanbedr Dyffryn Clwyd gyda'i deulu ac yn gweithio fel Barnwr Cylchdaith. Mae Nic yn Flaenor yng nghapel Gellifor ac yn gynhyrchydd drama i Gymdeithas Ddrama Rhuthun.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dad yn rhoi weiran bigog o dan giât y buarth i atal fy efaill Wil a minnau rhag cropian o dan y bar isaf ac i'r ffordd fawr - ymhell cyn dyddie iechyd a diogelwch.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aberystwyth, lle bûm yn fyfyriwr prifysgol - yno y mae gwreiddyn y cariad, y cyfeillion am oes a'r atgofion sy'n parhau hyd heddiw.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gwledd o dan y lloer ar saffari yn Ne Affrica yng nghwmni fy nheulu ifanc, cyn cerdded nôl i babell wedi'i goleuo gan ganhwyllau. Cerdded y daith honno yng nghwmni gofalwyr oedd yn cario gynnau a'm dwy ferch fach, Anna a Beca, yn gafael yn dynn yn fy llaw heb wybod fod dad mor bryderus â nhw
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
'Run munud llonydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Cwrdd â'r reslar Orig Williams am y tro cyntaf. Eistedd mewn fflat yn y Rhyl ar gadeiriau croen llewpard a thrafod cynllun fyddai'n golygu mai'r cam nesaf yn fy mywyd fyddai bod yn sylwebydd ar Reslo o bopeth.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Actio'r prif ran mewn cynhyrchiad ysgol o Y Tad a'r Mab gan John Gwilym Jones oedd yn gorffen efo fi yn hen ŵr wedi marw yn ei wely. Roedd popeth wedi ei ymarfer heblaw… sut oeddwn i adael y llwyfan cyn y curtain call. Dyma benderfynu codi o'r gwely yn y tywyllwch dudew dim ond i lanio ar biano anferth a thorri dwy asen.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yr wythnos diwethaf yn gwylio pennod olaf drama deledu ysgytwol Jimmy McGovern, Time, am fywyd mewn carchar.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
O ddifri? Faint o amser s'gynno' chi?
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Darllen yw un o bleserau 'mywyd, ffuglen bob tro os bosib. Os caf fy addysgu yn ogystal â'm gwefreiddio a'm hysgwyd, gorau oll felly mae dwy nofel sy'n cynnig hynny yn dod i'r brig. The Kite Runner gan Khaled Hosseini sy'n adrodd stori dau gyfaill plentyndod triw yn troi'n elynion oherwydd rhyfel a hiliaeth yn Afghanistan, ac All The Light We Cannot See gan Anthony Doeer, hanes Ffrances ddall, chwe oed yn byw ym Mharis yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac sy'n dianc i Saint Malo i fod yn rhan o antur fawr.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Fy mam, Ceinwen, fu farw pan oedd hi brin hynach nag ydw'i nawr. Yn ddarlledwraig ac Ynad Heddwch, gwn y byddai wedi bod mor falch o'm gweld yn cael fy nyrchafu'n Farnwr a byddai'n gyfle i ddweud wrthi am fy ngwaith yn y maes hwnnw a'r byd darlledu, meysydd oedd mor agos at ei chalon. Byddai'n gyfle hefyd i ddweud gymaint wrthi am ei hwyresau, yn blant mân pan fu farw, bellach unai'n gyfreithwraig, meddyg neu fam. (Byddai raid cael digon o Martini a sigarets menthol St Moritz).
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi jyst methu tyfu barf.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Sylwebu ar Gymru yn ennill Rownd Derfynol Cwpan y Byd wrth gwrs.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Y Stori gan Claudia Williams, sydd ar wal tŷ ni. Adlewyrchiad o fy aelwyd, merched ym mhob man a dweud stori a darllen yn greiddiol i fywyd, bron o'r crud.
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
Rhoi hygs i bobol.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Ci neu efengylwr. Er mwyn cael gwybod unai sut beth yw cael y fath stamina neu sut brofiad ydy cael troedigaeth.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Megan Hunter.