Crys enfawr yn cefnogi tîm Cymru yn Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r crys yn bum metr ar draws ac yn cynnwys cyfanswm o 36 metr o ddefnydd

Efallai nad yw cefnogwyr Cymru wedi gallu teithio i gefnogi'r tîm pêl-droed mewn niferoedd mawr yng nghystadleuaeth Euro 2020, ond mae un ffan o Wynedd wedi dangos ei chefnogaeth mewn datganiad mawr ac anarferol iawn.

Mae Lynne Humphreys-McCrickett o Ddinas Mawddwy wedi hongian crys pêl-droed Cymru sy'n wyth metr o uchder o ochr ei thŷ.

Mae'r Crys Mawr Coch mor fawr nes ei fod yn atal goleuni rhag cyrraedd yr ystafelloedd tu fewn.

Mae'n pum metr ar draws ac yn cynnwys cyfanswm o 36 metr o ddefnydd.

Dywedodd: "Es i lawr i'r siop ym Machynlleth a gofyn 'Faint o ddefnydd coch sydd ganddoch chi? Wnawn ni gymryd y cwbl!'."

Ffynhonnell y llun, Lynne Humphreys-McCricket
Disgrifiad o’r llun,

John a Lynne Humphreys-McCricket

Mae'n dweud nad oedd y gwaith o wneud y crys mor anodd â'r dasg o geisio ei osod ar y tŷ. "Mae e fel hwyl pan mae'r gwynt yn gafael ynddo", meddai. "Sgriwio fe mewn i'r tŷ 'dan ni wedi gwneud y tro yma."

Fe greuodd Lynne y crys yn wreiddiol pan gyrhaeddodd Cymru rowndiau terfynol Euro 2016. Ers hynny mae hi wedi ei ddiweddaru er mwyn cynnwys y manylion newydd - fel y streips melyn a gwyrdd - sydd ar grys Cymru ar gyfer y gystadleuaeth bresennol.

Ond mae wedi cadw'r hen fathodyn gyda'r arwyddair 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' am fod gwell ganddi hwnnw.

Mae nifer y bobl yn mynd i'r tŷ er mwyn gweld y Crys Mawr Coch wedi helpu dod â chefnogwyr at ei gilydd, meddai Lynne.

"'Dan ni'n cael pobl yn dod i dynnu lluniau. 'Dan ni gyd yma, 'dan ni ddim yn Baku ond 'dan ni fan hyn - ac yn Y Bala, a Dolgellau a Machynlleth. Roedd lot o bobl ddim yn gallu mynd ond 'dan ni'n dal i gefnogi."

Ffynhonnell y llun, Lynne Humphreys-McCricket
Disgrifiad o’r llun,

Albanwr ydy John Humphreys-McCricket, ond Cymru sy'n cael cefnogaeth y cartref

Fe ddysgodd Lynne i weithio gyda defnydd gyda chwmni Laura Ashley yng Ngharno dros 30 o flynyddoedd yn ôl. Yna, bu'n gweithio yn y byd ffasiwn yn Llundain am 20 mlynedd cyn dychwelyd i Ddinas Mawddwy i fyw.

Mae Lynne wedi anfon llun o'r crys ar y cyfryngau cymdeithasol at garfan Cymru a sylwebwyr sydd draw yn Baku.

"'Dan ni wedi rhoi tweet i John Hartson, Robbie Savage, Gareth Bale ac ychydig o'r bois eraill sy'n chwarae. 'Dan ni heb gael response eto ond 'dan ni yn gobeithio. Maen nhw fisi yn dydyn nhw!"

Mae gŵr Lynne yn dod o'r Alban yn wreiddiol ac mae hi wedi gwneud addewid iddo os yw'r Albanwyr yn efelychu llwyddiant Cymru yn 2016. "Dwi wedi dweud wrtho 'if you get to the semi-finals, I'll make you a Scotland one'."

Ar ôl canlyniad siomedig Yr Alban yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ddydd Llun, mae'n bosib na fydd yn rhaid i Lynne fynd i'r siop ym Machynlleth i ofyn am 36 metr o ddefnydd glas ac y bydd ei Chrys Mawr Coch yn gallu parhau i hongian ar ben ei hun o ochr y tŷ yn Ninas Mawddwy tan ddiwedd yr Ewros.

Bydd modd dilyn Cymru v Twrci yn fyw ar ein llif byw arbennig o 16:00 ddydd Mercher.