Euro 2020: Cymru 1-1 Y Swistir
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd Cymru gêm gyfartal yn erbyn y Swistir yn eu gêm gyntaf yn rowndiau terfynol Euro 2020 yn Stadiwm Olympaidd Baku.
Ddaeth gôl Kieffer Moore ddim tan 73 munud mewn i'r gêm. Roedd yna ofnau bod Y Swistir wedi cael ail gôl funudau wedi gôl Cymru ond fe ddaeth technoleg VAR i'r adwy a dweud nad oedd hi'n cyfri.
Swistir gafodd y rhan fwyaf o'r meddiant gydol y gêm ond fe roddodd peniad Kieffer Moore wedi 16 munud, er yn aflwyddiannus, hwb cynnar i Gymru.
O fewn munudau gwnaeth Daniel Ward arbediad arbennig wedi ymgais Fabian Schar i sgorio oddi ar gic gornel.
Wedi 30 munud cerdyn melyn i Fabian Schar wedi iddo faglu Dan James yn ystod rhediad gwych ar ymyl y cwrt cosbi.
Ar hanner amser roedd y gêm yn ddi-sgôr gyda'r Swistir wedi ergydio llawer mwy na Chymru.
Gôl yr un
Doedd yna ddim newidiadau yn y naill dîm na'r llall ar ddechrau'r ail hanner.
Ond nid dyma'r dechrau gorau i Gymru wrth i Kieffer Moore gael cerdyn melyn wedi iddo daro amddiffynnwr gyda'i fraich.
Pedair munud fewn i'r ail hanner fe beniodd Breel Embolo y bêl i'r gôl wedi cic gornel ac roedd Y Swistir ar y blaen.
Roedd yna ambell gyfle i Gymru wedi perfformiad gwell ar adegau yn yr ail hanner ond dim digon i sgorio ar ddechrau'r ail hanner.
Cyn diwedd y gêm cerdyn melyn i Kevin Mbabu o'r Swistir wedi trosedd ac er bod Cymru yn falch o weld Xherdan Shaqiri yn gadael parhau heb gôl oedd y cochion.
Ond wedi 73 munud dyma Kieffer Moore yn codi calon pob Cymro ac yn sgorio ac roedd Cymru yn gyfartal.
Bu bron i orfoledd y Cymry ddod i ben wedi i'r Swistir sgorio eto ond fe ddaeth technoleg VAR i'r adwy gan ddyfarnu nad oedd y gôl yn cyfrif.
Diwedd mwy cyffrous a Chymru yn cael pwynt ond yr arbenigwyr yn dweud bod yn rhaid i berfformiad Cymru wella.
Yn sgil cyfyngiadau y pandemig ychydig o gannoedd o gefnogwyr oedd wedi teithio i Baku ond ar draws Cymru roedd cefnogwyr wedi ymgynnull i gefnogi o bell.
Wrth ymateb i'r gêm dywedodd Rhys Aled Owen, 23, oedd yn gwylio'r gêm yn Wrecsam: "70 munud trwy'r gêm, o'n i'n meddwl ella bo ni'n haeddu bod 4-0 lawr.
"Ond dyna di'r peth efo'r genedl yma - 'dan wastad yn dod nôl. O'n i'n gwybod bod unrhyw gôl sydd am ddod am ddod o gic gornel neu rhywbeth fel na 'de, ond pan 'nath o ddod.. dwi ddim wedi celebratio fel 'na erioed o'r blaen yn fy mywyd 'de."
Twrci fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru a hynny am 17:00 o'r gloch ddydd Mercher ein hamser ni ac yna fe fyddant yn teithio i Rufain i wynebu'r Eidal ddydd Sul, 20 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021