Caint yn trechu Morgannwg yn y T20 yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd Morgannwg eu trechu gan Sir Caint yng Nghaerdydd ddydd Mercher diolch i berfformiad batio gwael gan y tîm cartref.
Fe wnaeth Caint benderfynu batio gyntaf, a chyrraedd sgôr o 144-7 yn eu 20 pelawd nhw.
Ond cafodd Morgannwg ymateb siomedig, gyda Marnus Labuschagne (22) a James Weighell (24) yn unig yn rhoi unrhyw fath o her i fowlwyr y gwrthwynebwyr.
Cafodd y tîm cartref eu bowlio allan am gyfanswm o 104, gan olygu bod Caint yn ennill yn gyfforddus o 40 rhediad.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg wedi colli tair o'u pedair gêm T20 hyd yn hyn y tymor hwn.