Chwe artist yn rhannu Gwobr Artes Mundi 2021

  • Cyhoeddwyd
Dyn Heb Wlad gan Firelei BáezFfynhonnell y llun, Artes Mundi
Disgrifiad o’r llun,

Dyn Heb Wlad yw teitl y darn yma gan Firelei Báez

Mae rheithgor gwobr celfyddyd gyfoes ryngwladol fwyaf y DU wedi penderfynu gwobrwyo pob un o'r artistiaid a gafodd eu henwi ar restr fer eleni.

Dan amodau arferol cystadleuaeth Artes Mundi fe fyddai un enillydd wedi derbyn £40,000, ond eleni - am y tro cyntaf yn ei hanes - bydd chwe artist yn derbyn £10,000 yr un.

Dywed rheithgor y nawfed Artes Mundi eu bod "yn unfryd unfarn" ynghylch gwobrwyo holl artistiaid rhestr fer ym mlwyddyn y pandemig fel cydnabyddiaeth o "gyfnod o gynnwrf cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd enfawr".

Mae'r penderfyniad hefyd yn cydnabod "ansawdd neilltuol eu gwaith unigol, a'r cynnyrch hynod berthnasol".

Ffynhonnell y llun, Carrie Mae Weems
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o luniau Carrie Mae Weems yn codi cwestiynau am effaith anghyfartal y pandemig ar gymunedau BAME

Y chwe artist yw:

  • Firelei Báez o'r Weriniaeth Ddominicaidd;

  • Dineo Seshee Bopape o Dde Affrica;

  • Meiro Koizumi o Japan;

  • Beatriz Santiago Muñoz o Puerto Rico;

  • Prabhakar Pachpute o India;

  • Carrie Mae Weems o Unol Daleithiau America.

Ffynhonnell y llun, Artes Mundi
Disgrifiad o’r llun,

Gosodwaith Dineo Seshee Bopape sy'n ymwneud â lle, hanes a chanlyniadau'r fasnach gaethwasiaeth

Ffynhonnell y llun, Artes Mundi
Disgrifiad o’r llun,

Mae triptych fideo Meiro Koizumi trafod y broses iachau wedi'r Ail Ryfel Sino-Japaneaidd

Mae eu gwaith yn cael ei ddangos ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chanolfan Chapter tan 5 Medi, gyda rhaglen sgrinio o weithiau ychwanegol yn oriel g39 rhwng Gorffennaf a Medi.

Sefydlwyd y wobr, sy'n cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn, yn 2002 ac fe ddenodd dros 700 o enwebiadau o 90 o wledydd.

Ffynhonnell y llun, Artes Mundi
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffilmiau Beatriz Santiago Muñoz yn dangos effaith grymoedd economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol ar dirwedd, pobl a diwylliant Puerto Rico

Cafodd y rhestr fer ei chadarnhau ym Medi 2019 pan "prin y gallasai neb fod wedi rhagweld y newid cymdeithasol ac economaidd byd-eang roedd y byd yn carlamu tuag ato".

"Nid cyd-ddigwyddiad", medd y rheithgor, yw bod y gwaith yn ymwneud â "syniadau a materion cymhleth a heriol y mae angen i ni ymdrin â nhw'n unigol ac ar y cyd o fewn ein cymdeithasau ynghylch cydraddoldeb, cynrychiolaeth, trawma a braint".

Y canlyniad, medd trefnwyr, yw "arddangosfa amserol a chyfoethog" gan artistiaid sydd wedi amlygu cryn wytnwch "wrth oresgyn y rhwystrau lu'n fyd-eang y mae Covid-19 wedi'u hachosi".

Ffynhonnell y llun, Artes Mundi
Disgrifiad o’r llun,

Mae paentiadau, baneri a gwrthrychau Prabhakar Pachpute yn 'harneisio eiconograffi protest a chydweithredu'

Pynciau cysylltiedig