Llywodraeth Cymru'n gohirio'r llacio wrth wynebu trydedd don
- Cyhoeddwyd
Fydd yna ddim llacio pellach ar reolau coronafeirws yng Nghymru am bedair wythnos arall, a hynny oherwydd pryder am amrywiolyn Delta, gafodd ei ganfod gyntaf yn India.
Mewn cynhadledd newyddion ddydd Gwener, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod Cymru, a'r DU gyfan, yn wynebu trydedd don o'r pandemig.
"Mae ein ymgynghorwyr gwyddonol yn credu bod y DU nawr yn y cyfnod cyn y bydd trydedd don," meddai.
"Efallai bod Cymru ddwy neu dair wythnos y tu ôl i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr a'r Alban, lle mae degau o filoedd o achosion wedi'u cadarnhau, mae lledaeniad amlwg ac adroddiadau o fwy o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty."
Achosion ar gynnydd
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd y cyfnod o bwyllo yn rhoi cyfle i roi ail ddos o frechlyn i fwy o bobl.
Y bwriad yw rhoi mwy na 500,000 o ddosau "er mwyn helpu i atal ton newydd o salwch difrifol wrth i achosion o'r coronafeirws ddechrau codi".
Er hynny, bydd rhai mân newidiadau i'r canllawiau yn dod i rym ddydd Llun, gan gynnwys y rheolau ar westeion i briodasau.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod bron i 490 o achosion o'r amrywiolyn Delta yng Nghymru, gyda dros 80% o achosion newydd yn dod o ganlyniad i'r amrywiolyn.
Yr awgrym nawr, medd y llywodraeth, yw ei fod yn cael ei ledaenu yn y gymuned yn hytrach na phobl yn dychwelyd o dramor.
Mae cyfradd yr achosion o coronafeirws yng Nghymru wedi codi'n raddol ers diwedd mis Mai, ac mae cyfradd yr achosion positif wedi mwy na dyblu.
Wrth siarad gydag Oliver Hides ar BBC Radio Wales fore Sadwrn, dywedodd Dr Naomi Forrester-Soto, firolegydd o Brifysgol Keele, bod cynnydd yn y nifer o achosion ymhlith pobl ifanc - a bod dau reswm am hynny.
"Un yw bod llawer o bobl hŷn wedi eu brechu ac wedi cael dau ddos o'r brechlyn. Mae dau ddos yn allweddol i gael amddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn Delta," meddai.
"Y peth arall yw, gyda'r ailagor a'r rheolau'n cael eu llacio ychydig a phobl yn cyfarfod mewn tafarndai a bwytai, mae ychydig mwy o gyfle wedi bod ar gyfer trosglwyddiad ac yn enwedig ymhlith y grŵp oedran iau."
Mygydau mewn ysgolion
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mewn ychydig wythnosau yn unig, mae amrywiolyn Delta wedi cyrraedd Cymru ac wedi lledaenu drwy'r wlad yn gyflym.
"Mae'r cyfraddau trosglwyddo yn cyflymu, nid dim ond yn y gogledd a'r de-ddwyrain ond ym mhob rhan o Gymru.
"Bellach, dyma'r amrywiolyn mwyaf cyffredin mewn achosion newydd yng Nghymru. Unwaith eto, rydyn ni'n wynebu sefyllfa ddifrifol o ran iechyd y cyhoedd.
"Mae gennym ni'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y DU, a'r cyfraddau brechu uchaf.
"Gallai oedi am bedair wythnos cyn llacio'r cyfyngiadau helpu i leihau'r niferoedd uchaf o dderbyniadau dyddiol i'r ysbyty o hyd at hanner, ar adeg pan fo'r gwasanaeth iechyd yn brysur iawn yn ceisio diwallu'n holl anghenion gofal iechyd - nid dim ond trin y coronafeirws."
Yn y gynhadledd newyddion ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a ddylid llacio rheolai ar wisgo mygydau mewn ysgolion.
Ar hyn o bryd y rheol yw fod rhaid gwisgo mwgwd ymhobman mewn ysgolion, gan gynnwys yr ystafell ddosbarth.
Dywedodd: "Ni fydd newid ar unwaith, ond fe fyddwn ni'n gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau athrawon i ganfod ffyrdd o weithio i'r dyfodol fel nad oes rhaid eu gwisgo ymhob dosbarth, bob dydd."
Mân newidiadau
Bydd y rheoliadau yn cael eu hadolygu eto ar 15 Gorffennaf.
Er nad oes newidiadau sylweddol i'r rheolau am bedair wythnos mae yna rai mân newidiadau.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Bydd nifer y bobl a gaiff fynd i dderbyniad priodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd, a drefnir gan fusnes mewn eiddo dan do sy'n cael ei reoleiddio, megis gwesty, yn cael ei bennu gan faint y lleoliad ac ar sail yr asesiad risg;
Egluro y bydd lleoliadau cerddoriaeth a chomedi bach ar lawr gwlad yn cael gweithredu ar yr un sail â lleoliadau lletygarwch, fel tafarnau a chaffis;
Bydd hyd at 30 o blant ysgol gynradd sydd yn yr un grŵp cyswllt neu swigen yn yr ysgol yn cael aros dros nos mewn canolfan breswyl addysg awyr agored.
Bydd digwyddiadau peilot yn y sector theatr, chwaraeon ac mewn sectorau eraill hefyd yn parhau drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf.
Mae Julia Pugh yn berchen ar leoliad priodas moethus Garthmyl Hall ym Mhowys, a dywedodd wrth BBC Radio Wales bod y newidiadau'n "newyddion gwych mewn sawl ffordd".
"Rydyn ni'n gallu cael niferoedd llawer mwy fel mae llawer o leoliadau, sy'n golygu bod nifer o'r cwplau a oedd yn bryderus am fis Gorffennaf ac Awst yn dal i fynd ymlaen â'u priodasau, sy'n newyddion gwych.
"Felly gobeithio fydd 'na ddim mwy o ohirio na chanslo."
Ymateb y gwrthbleidiau
Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies ei fod yn "falch bod gweinidogion Llafur wedi gwrando ar alwad y Ceidwadwyr Cymreig i roi mwy o eglurder a hyblygrwydd i ddigwyddiadau pwysig fel priodasau".
"Gan fod y cyfyngiadau'n parhau, bydd angen mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn manylu ar ba fuddsoddiad ychwanegol a ddaw gan ei lywodraeth i amddiffyn swyddi," meddai.
Ond ychwanegodd hefyd ei fod yn siomedig bod cyhoeddiadau am lacio cyfyngiadau yn cael eu gwneud i'r wasg, yn hytrach na'r Senedd, a bod hynny'n atal aelodau rhag craffu ar newidiadau yn amserol.
Dywedodd Cadan ap Tomos ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae cyhoeddiad heddiw yn neud lot o synnwyr, ac rwy'n croesawu'n fawr beth sydd yn cael ei ddweud am briodasau a beth sydd yn cael ei ddweud ynglŷn â chanolfannau awyr agored.
"Mae'r newidiadau yma yn neud y rheolau ma i neud bach mwy o synnwyr falle i bobl yn mynd i helpu i gadw at y rheolau gan feddwl bod ni yn gofyn mwy ar bobol unwaith eto.
Llefarydd iechyd Plaid Cymru yw Rhun ap Iorwerth a dywedodd: "'Da ni yn deall rŵan beth ydi bod ar gychwyn ton, ac mi ydan ni ar gychwyn ton a 'da ni'n gwybod i ba gyfeiriad yr awn ni o ran nifer yr achosion os ydi pethau ddim yn cael eu gwneud yn ofalus.
"Beth 'da ni ddim yn gwybod ydy pa effaith yn union fydd y cynnydd mawr sydd wedi bod yn niferoedd y brechiadau yn ei gael ar ba mor sâl mae pobl yn mynd i fod a faint o bobl sydd yn mynd i'r ysbyty ac yn y blaen. Dwi'n gobeithio bydd y darlun yna yn gliriach.
"Mae nifer o gwestiynau yn codi allan o'r cyhoeddiad yma - beth sydd yn mynd i gael ei wneud rŵan i gefnogi llywodraeth leol yn fwy fyth hefo gwasanaethau olrhain, hefo rhagor o adnoddau ac ati, achos mae hynna yn bwysig er mwyn i ni fedru cadw rheolaeth mor dynn â phosib ar y lledaeniad o fewn cymunedau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021