Dim llacio mawr ar gyfyngiadau Covid cyn Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mr Drakeford yn cyhoeddi'r camau nesaf mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener

Mae'n annhebygol y bydd cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru yn cael eu llacio'n sylweddol tan fis Gorffennaf oherwydd pryder am yr amrywiolyn Delta, mae BBC Cymru yn deall.

Mae gweinidogion wedi bod yn edrych ar ganiatáu i fwy o bobl gwrdd y tu fewn.

Ond, wrth i achosion godi, dywed ffynonellau na fydd newidiadau mawr yn y rheolau am y pedair wythnos nesaf.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford wneud cyhoeddiad ddydd Gwener.

Fe wnaeth gweinidogion y cabinet gyfarfod brynhawn Mercher i drafod y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

Cafodd cyfyngiadau ar gynulliadau awyr agored eu lleddfu yn gynharach ym mis Mehefin fel rhan o gyflwyniad graddol o Rybudd Lefel Un - y lefel isaf ar gynllun rheoli coronafeirws Llywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion wedi bod yn adolygu'r sefyllfa cyn penderfynu a oes modd llacio cyfyngiadau eraill ar 21 Mehefin.

'Ddim yn syndod'

Mae cyfradd achosion Covid-19 Cymru wedi codi o dan 10 fesul 100,000 o bobl ers dechrau'r mis i 22.

Mae Cymru wedi nodi 100 o brofion positif newydd y dydd ar gyfartaledd yn ystod y saith diwrnod diwethaf, cynnydd sydd i ddisgwyl wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, gyda chlystyrau mewn ardaloedd lleol yn gyrru'r cynnydd cyffredinol.

Wrth ymateb i'r adroddiadau diweddaraf, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, nad oedd y newydd yn syndod.

"Ond rwy'n gobeithio bod gweinidogion Llafur yn ystyried lleddfu rhai o'r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau mawr fel priodasau ac angladdau, a allai, diolch i'r cynllun brechu gwych, gael rhywfaint o hyblygrwydd," meddai.

"Ac yng ngoleuni'r cyfyngiadau parhaus, mae'n amlwg y bydd angen mwy o gymorth ariannol ar fusnesau hefyd a dylai'r Prif Weinidog egluro pa gyllid ychwanegol y bydd ei lywodraeth yn ei ddarparu i amddiffyn swyddi Cymru."