Morgannwg yn curo Middlesex o 21 o rediadau yn y T20
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi trechu Middlesex o 21 o rediadau gan sicrhau eu hail fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth y T20 eleni.
Nhw wnaeth batio yn gyntaf yng Ngerddi Soffia gan sgorio 150 am naw wiced wedi 20 pelawd.
Sgoriodd Colin Ingram 75 o'r rhediadau hynny mewn 72 o funudau.
Wrth i Forgannwg faesu, fe gymrodd Timm van der Gugten dair wiced am 16 o rediadau mewn pedair pelawd, gan gynnwys un prif sgoriwr yr ymwelwyr Paul Stirling (46).
129 am naw wiced oedd sgôr terfynol Middlesex, sydd bellach wedi colli i Forgannwg am y nawfed tro yn 11 gêm y ddau dîm mewn gêm 20 pelawd.
Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, aelod hirdymor o'r clwb, yng Ngerddi Soffia, gan weld dros ei hun sut mae gweithredu mesurau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon.