Cyflymu'r rhaglen frechu ar drothwy trydedd don
- Cyhoeddwyd
Fydd pobl yn eu pedwardegau ddim yn gorfod aros yn hwy nag wyth wythnos am yr ail frechlyn, medd Llywodraeth Cymru.
Mae gweinidogion yn awyddus i gyflymu y rhaglen frechu wrth i amrywiolyn Delta o'r haint ledaenu.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 579 achos o'r amrywiolyn yng Nghymru - gyda thystiolaeth gynyddol yn dangos ei fod yn lledu yng gynt nag amrywiolion eraill o'r haint.
Yr wythnos diwethaf dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod y DU ar fin wynebu trydedd don o'r haint a bod Cymru ryw bythefnos neu dair y tu ôl i Loegr a'r Alban - sydd wedi gweld naid sylweddol mewn achosion.
'Dysgu byw gyda'r feirws'
Tra'n siarad yng nghynhadledd y wasg ddydd Llun dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Rhwng nawr a chanol Gorffennaf, fe fyddwn yn cyflwyno hanner miliwn yn fwy o frechlynnau i'r system, yn canolbwyntio ar ail ddos a sicrhau fod pobl wedi cael eu brechu'n llawn.
"Bydd sylw penodol ar roi ail ddos i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth un i naw yn ystod yr wythnosau nesaf - mae hynna'n golygu pawb dros 50, gweithwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol a grwpiau bregus eraill gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal.
"Ac os yw'r cyflenwadau yn caniatáu fe fyddwn yn ceisio sicrhau fod pobl yn eu 40au yn cael eu brechu'n gynt fel nad ydyn nhw'n gorfod aros yn hwy nag wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a'r ail."
Wrth gael ei holi a yw cyfnod clo pellach yn debygol, dywedodd y gweinidog iechyd fod hynny'n ddibynnol ar y modd y mae'r cyhoedd yn ufuddhau i'r cyfyngiadau.
"Yn sicr mae'r awgrymiadau o ymbellhau cymdeithasol, gwisgo mygydau a golchi dwylo yn gyson yn helpu'r sefyllfa.
"Ar ryw adeg mi fydd yn rhaid i ni ddysgu byw gyda'r feirws," meddai.
Nododd hefyd na fydd hi'n debygol y bydd rhaid cyflwyno brechu gorfodol yng Nghymru gan fod cynifer wedi derbyn y brechlyn yn wirfoddol.
Pwysigrwydd dau ddos
Dywedodd y dirprwy swyddog meddygol Dr Chris Jones bod amrywiolyn Delta yn ffurf "hynod o ymosodol" ond bod dau ddos o'r brechlyn yn parhau i amddiffyn pobl rhag yr haint.
"Mae'n ras ar hyn o bryd rhwng y feirws a'r rhaglen frechu a dyna pam ry'n yn awyddus i bawb gael yr ail ddos mor fuan â phosib," meddai.
"Yn y sefyllfa waethaf bosib petai'r amrywiolyn yn cael ei drosglwyddo'n gynt a bod y brechlyn yn llai effeithiol mi fyddai'r drydedd don yn waeth na'r hyn a welwyd yn ystod Ionawr eleni.
"Dyna pam mae hi mor bwysig i bob unigolyn fod yn ofalus a gweithredu mesurau ry'n yn gwybod all amddiffyn teuluoedd a ffrindiau."
O ran dos atgyfnerthu (booster) yn yr hydref, ychwanegodd y gweinidog iechyd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddisgwyl cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Mae disgwyl cyngor hefyd am frechlynnau i blant.
Dywedodd Dr Chris Jones bod y GIG yn ceisio rhagweld beth fydd y cyngor ac yn paratoi at "sefyllfaoedd tebyg".
"Ry'n yn ystyried sut y bydd modd gweithredu hyn a'r rhaglen frechu rhag y ffliw ar yr un pryd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2021