Llacio cyfyngiadau lleoliadau comedi a cherddoriaeth byw
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau Covid-19 Cymru yn newid mymryn ddydd Llun wrth i nifer y bobl sy'n cael mynychu lleoliadau cerddoriaeth a chomedi gael ei lacio.
Fel mewn tafarnau a bwytai, mae grwpiau o chwe pherson o chwe aelwyd wahanol bellach yn gallu mynychu lleoliadau cerddoriaeth a chomedi gyda'i gilydd.
Bydd y rheolau ar gyfer nifer y bobl sy'n cael mynychu pob lleoliad nawr yn seiliedig ar faint y lleoliad yn hytrach na chyfyngu pob lleoliad i 30 person.
Y newidiadau eraill i reolau Cymru yw bod plant sydd yn yr ysgol gynradd sydd yn yr un grŵp cysylltiad neu swigen yn gallu aros dros nos mewn canolfan awyr agored breswyl addysgiadol.
Bydd nifer y gwesteion sy'n cael mynychu derbyniad priodas ac angladd hefyd yn newid yng Nghymru, gyda'r rheolau newydd yn caniatáu lleoliadau i dderbyn cymaint o bobl ag y maen nhw'n gallu yn ddiogel.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n gohirio gwneud penderfyniad am lacio mwy o gyfyngiadau am bedair wythnos oherwydd pryderon am drydedd don o Covid-19.
Dywed mudiad yr Urdd ei bod yn rhy gynnar i ddweud faint o effaith fydd y newidiadau yn eu cael ond eu bod yn gam i'r cyfeiriad cywir.
"Mae trefnu cwrs preswyl arbennig yn broses sydd yn cymryd rhai wythnosau i ddigwydd, felly dwi ddim yn siŵr faint o effaith geith o am y pedair wythnos nesaf ond o leiaf mae'n mynd i'r cyfeiriad cywir ar gyfer tymor yr hydref," meddai Huw Antur, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glanllyn.
"Mae'r sefyllfa yn ansicr iawn, mae 'na ansicrwydd yn ein pen ni a hefyd ym mhen yr ysgolion a ni wedi bod yn trio neud trefniadau ond bod nhw yn drefniadau anffurfiol iawn.
A thra bod y diwydiant cerddoriaeth yn croesawu'r newidiadau, mae yna bryderon bydd gorfodi lleoliadau i weithredu ymbellhau cymdeithasol yn "anymarferol yn ariannol" i leoliadau.
'Dim cerddoriaeth byw am amser hir'
Mae'r rapiwr Eggsy, sy'n aelod o'r grŵp hip hop o Gasnewydd Goldie Lookin Chain, yn poeni am ddyfodol lleoliadau bach a'n ofni na fydd cerddoriaeth byw leol nôl tan 2022.
"Mae ein gigiau wedi cael eu gwthio nôl eto ac eto," meddai.
"A fydd lleoliadau'n gallu gwneud elw gyda thorfeydd llai? Bydd hynny'n effeithio ar bwy maen nhw'n bwcio.
"Efallai byddwch yn gallu cael rhai bandiau lleol fydd ddim yn costio llawer ond bydd cael bandiau mewn a gwneud elw yn anodd."
Mae Goldie Lookin Chain yn cynllunio taith yn nhymor yr hydref eleni sy'n cynnwys saith perfformiad yng Nghymru.
Ond dydy Eggsy ddim yn meddwl y byddan nhw'n digwydd eleni: "Dydw i ddim yn meddwl bydd cerddoriaeth fyw nôl am amser hir, y flwyddyn nesaf ar y gynharaf. Fi'n gobeithio bod fi'n anghywir, ond mae dal yn edrych yn wallgof.
"Ond gobeithio bydd y newidiadau yma i'r rheolau'n rhoi saib bach i leoliadau bach a chyfle iddyn nhw wneud bach o arian."
'Anymarferol yn ariannol'
Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn bwriadu cysoni'r rheolau ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad - fel Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, Sin City yn Abertawe a Pavillion Mid Wales yn Llandrindod Wells - ynghyd â gweddill y sector lletygarwch.
Tra bod yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth yn "gwerthfawrogi'r" newid i'r cyfyngiadau, mae'r grŵp - sy'n cynrychioli 50 lleoliad cerddoriaeth yng Nghymru - yn pryderu.
"Dydy e ddim yn ymarferol yn ariannol," meddai'r prif weithredwr Mark Davyd.
"Bydd lleoliadau'n gwneud y newidiadau er mwyn ailgysylltu gyda chwsmeriaid. Mae'n newyddion da bod popeth yn symud ymlaen.
"Dyw e ddim mor gyflym â fyddan ni'n hoffi ond rydyn ni'n gwerthfawrogi popeth mae Mark Drakeford wedi gwneud.
"Ond mae faint o leoliadau bydd yn gallu agor yng Nghymru yn gwestiwn bach yn wahanol, oherwydd mae'n dal yn rhaid iddyn nhw sicrhau bod pobl yn ymbellhau'n gymdeithasol."
Mae'n meddwl bydd rhai lleoliadau'n "ceisio gwneud dwy sioe'r diwrnod yn hytrach nag un" er mwyn ceisio gwneud elw.
"Efallai byddan nhw hefyd yn ceisio cyflwyno gigiau ble rydych chi'n eistedd a'n cael bwyd, felly bydd hwnna mwy fel profiad o fwyta allan," meddai Mr Davyd.
Mae tafarn Le Pub yng Nghasnewydd hefyd yn lleoliad bach cerddoriaeth adnabyddus ac mae ei reolwr Sam Dabb yn meddwl bod y canllawiau newydd yn "synhwyrol".
"Roedd y canllawiau diwethaf yn golygu bod hyd yn oed lleoliadau fel y Tramshed (sydd â lle i 1,000 o bobl) ond yn gallu cael uchafswm o 30 person," meddai.
"Mae'n synhwyrol a fi'n meddwl mae'n hollol saff oherwydd mae'n cael ei benderfynu yn ôl maint y lleoliad.
"Fi'n credu'r peth maen nhw angen gwneud nawr yw gweithio ar y canllawiau ar gyfer digwyddiadau mawr, fel y rhai sydd yng Nghastell Caerdydd."
Beth yw'r rheolau ar gyfer priodasau yng Nghymru?
Mae'r rheolau ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil ac angladd yng Nghymru yn newid o ddydd Llun ac ni fydd bellach uchafswm ar nifer y bobl sy'n cael mynychu priodas.
Yn dilyn asesiad risg gan leoliadau, dywedodd y prif weinidog bydd y niferoedd yn cael eu seilio ar faint o bobl sy'n gallu mynychu'r lle yn ddiogel.
Dywedodd Mr Drakeford: "Os maen nhw'n gallu cael mwy na 100 person yn ddiogel, dyna beth fyddan nhw'n gwneud."
Ychwanegodd byddai'n meddwl "mewn nifer eithaf mawr o leoliadau ar draws Cymru, bydd y nifer sy'n cael mynychu priodas yn uwch nag y mae ar hyn o bryd".
Bydd digwyddiadau peilot mewn theatrau, chwaraeon a sectorau eraill yn parhau trwy gydol Mehefin a Gorffennaf tan adolygiad nesaf rheolau cyfnod clo Cymru ar 15 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021