Jones i arwain y Llewod yn erbyn Japan
- Cyhoeddwyd
Alun Wyn Jones fydd capten y Llewod wrth iddyn wynebu Japan ddydd Sadwrn fel rhan o'u paratoadau ar gyfer y daith i Dde Affrica.
Bydd yr asgellwr Josh Adams a'r bachwr Ken Owens hefyd yn y tîm sy'n cynnwys wyth o chwaraewyr sy'n ennill eu cap cyntaf.
Mae disgwyl torf o 16,500 yn Murrayfield ar gyfer y gêm gyntaf erioed rhwng y Llewod a Japan.
Mae Dan Biggar wedi ei ddewis fel maswr, gyda Liam Williams yn gefnwr.
Bydd Taulupe Faletau a Wyn Jones yn dechrau ar y fainc.
Fe fydd y Llewod yn chwarae eu gêm gyntaf yn Ne Affrica yn Johannesburg ar 3 Gorffennaf, gyda'r gyfres brawf yn dechrau yn Cape Town dair wythnos ar ôl hynny.
Bydd y gic gyntaf yn erbyn Japan ddydd Sadwrn, 26 Mehefin am 15:00.
Llewod: L Williams; Adams, Henshaw, Aki, Van der Merwe; Biggar, Murray; Sutherland, Owens, Fagerson, Henderson, AW Jones (c), Beirne, Watson, Conan
Eilyddion: George, W Jones, Furlong, Lawes, Faletau, Price, Farrell, Watson.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2021
- Cyhoeddwyd6 Mai 2021