Pryder am ddyfodol ysgol Llannefydd wrth i niferoedd ddisgyn
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol wledig ger Dinbych yn ymgyrchu i ddenu mwy o ddisgyblion wedi i niferoedd ddisgyn.
11 o blant sydd yn Ysgol Llannefydd, a bydd ymgynghoriad am ei dyfodol yn cychwyn os bydd llai na 10 ar ei chofrestr.
Nod y pennaeth yw perswadio rhieni o ddalgylch ehangach sy'n chwilio am addysg Gymraeg i yrru eu plant yno.
Dywedodd un rhiant y byddai'r pentref yn "colli'r gymuned" heb yr ysgol.
Er nad oes bygythiad i'r ysgol ar y funud, mae staff a llywodraethwyr yn lansio'r ymgyrch i "baratoi at y dyfodol".
"Mae rhywun yn gorfod derbyn, bellach, bod rhaid marchnata ysgol," meddai'r llywodraethwr, Rhys Williams.
"Achos mae'r rhyddid yne i'r rhieni fynd â'u plant i ysgol o'u dewis, o fewn rheswm - felly mae'n rhaid i ninne hefyd godi ymwybyddiaeth o'r ysgol a dangos bod gynnon ni rhywbeth arbennig iawn ar gyfer teuluoedd."
Targedu cymunedau cyfagos fel Bodelwyddan a Llanelwy mae'r ysgol nawr, gan bwysleisio rôl y Gymraeg a nifer yr athrawon sy'n edrych ar ôl y criw bach o blant.
Yn ôl y pennaeth, Gari Evans, mae'n rhaid i'r awdurdodau ystyried sut mae cadw ysgolion gwledig yn hyfyw pan yn ystyried dyfodol cymunedau yn fwy cyffredinol.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fod ag un llygad ar y dyfodol o ran ysgolion gwledig fel ninnau a beth ydy dyfodol y gymuned," meddai.
"Er enghraifft, mae 'na ddiffyg tai i bobl leol yma, ac mae angen edrych i godi tai mewn pentrefi fel hyn.
"Os ydy hynny'n galluogi pobl leol i aros yn lleol, yna mae eu plant nhw'n mynd i fynychu'r ysgol. Felly mae angen un llygad ar y dyfodol i weld sut ydan ni'n gallu diogelu ysgolion fel Llanefydd ledled Cymru."
"Mae'n brifo 'nghalon i ..."
Tra bod rhai rhieni'n teithio rhai milltiroedd i ddod i'r ysgol, mae Anna Williams a'i theulu yn byw yn y pentref. Dydy hi ddim yn gallu stumogi'r syniad y gallai'r ysgol orfod cau.
"Mae'n brifo 'nghalon i i feddwl am y peth, i ddweud y gwir," meddai.
"Heb yr ysgol, ti'n colli'r gymuned.
"'Dan ni'n coelio'n gryf mewn ysgolion gwledig, Cymraeg - ac mae lot o'r rheiny wedi cau, ac unwaith maen nhw'n cau, dy'n nhw ddim yn dod yn ôl."
Wrth ymateb, dywedodd adran addysg Cyngor Sir Conwy eu bod "wedi ymrwymo'n llwyr i ddyfodol ein hysgolion bach a gwledig" ac yn "gweithio'n agos gyda'r consortiwm rhanbarthol, aelodau etholedig, penaethiaid a chymunedau lleol ar y rhaglen bwysig hon."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn "sicrhau bod y gymuned leol yn cael cyfle i ddweud ei dweud" os yw cynghorau'n cynnig "newidiadau sylweddol i ysgolion".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021