Rhybudd melyn am law trwm yn y de fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai glaw sylweddol effeithio ar rannau o Gymru o ddydd Sul.
Daeth rhybudd melyn am law i rym am 14:00 ddydd Sul, a bu'n weithredol hyd at 10:00 fore Llun.
Roedd rhybudd y gallai glaw trwm arwain at lifogydd ac oedi teithio ar draws y de-ddwyrain.
Roedd darogan tua 20-40mm o law, ond gallai ychydig o ardaloedd weld 60-80mm, gan gynnwys 15-25mm o fewn awr.
Disgwylir i 12 o 22 sir Cymru weld "glaw parhaus ac weithiau glaw trwm".
Cafodd gyrwyr eu rhybuddio i gymryd gofal, gan y gallai llifogydd arwain at amodau gyrru anodd a chau ffyrdd o bosib.
"Lle mae llifogydd yn digwydd, efallai y bydd oedi neu ganslo gwasanaethau trên a bws," meddai'r Swyddfa Dywydd, gan ychwanegu y gallai amodau hefyd droi'n "daranllyd".
Y siroedd oedd yn debygol o gael eu heffeithio oedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.