Ymestyn cyfnod o gymorth i fusnesau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
siopFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw caniatáu i fusnesau sydd dan bwysau ariannol i gadw eu drysau ar agor

Bydd busnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyfnod clo yn cael eu hamddiffyn rhag colli eu tenantiaeth am gyfnod ehangach, medd Gweinidog yr Economi.

Roedd disgwyl i'r mesurau oedd yn gwahardd landlordiaid rhag gweithredu yn erbyn tenantiaid ddod i ben ar 30 Mehefin, ond fe fydd nawr yn cael ei ymestyn tan 30 Medi.

Y nod ydy helpu sectorau fel lletygarwch, manwerthu, hamdden a thwristiaeth - y sectorau sydd wedi eu taro yn galed yn ystod y cyfnodau clo yng Nghymru.

Er gwaethaf pecyn gwerth £2.5bn oddi wrth Lywodraeth Cymru, a pholisïau fel cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, mae nifer o fusnesau yn parhau i'w chael yn anodd cwrdd â'u costau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cyfnod clo diweddaraf yng Nghymru daro busnesau yn galed dros gyfnod y Nadolig

Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn brofiad hynod ofidus inni i gyd, yn enwedig i fusnesau a gweithwyr ym mhob cwr o Gymru.

"Rydyn ni wedi defnyddio pob sbardun posibl i'w cefnogi yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau swyddi a bywoliaeth i bobl.

"Dyna pam dw i'n cyhoeddi heddiw estyniad arall i'r mesurau i atal busnesau rhag fforffedu eu tenantiaethau am beidio â thalu rhent, a fydd yn diogelu busnesau rhag cael eu troi allan."