50% yn llai o bobl yn gweithio ynghanol Caerdydd ers Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Empty high street in CardiffFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llai o bobl wedi bod yn gweithio ac yn gwario arian yng Nghaerdydd yn ystod y pandemig, medd ymchwil

Mae nifer y bobl sy'n gweithio ynghanol Caerdydd 50% yn is na chyn y pandemig, medd gwaith ymchwil newydd.

Mae astudiaeth gan ganolfan ymchwil y ar gyfer economeg a busnes, dolen allanol yn dangos bod canran y niferoedd sydd wedi dychwelyd i swyddfeydd yng Nghaerdydd bedair gwaith yn is nag mewn pedair dinas fawr arall yn y DU.

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod £400m yn llai wedi cael ei wario ynghanol y ddinas nag ym Mawrth 2020.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod "effaith fawr" Covid ac yn gweithio'n agos gyda sectorau sydd wedi dioddef.

Mae'r gwaith ymchwil yn nodi hefyd y byddai gwariant mewn siopau, bwytai a thafarndai y brifddinas £6.3m yn is y mis na chyn y pandemig, petai gweithwyr ond yn gweithio yn y ddinas dau ddiwrnod yr wythnos ar gyfartaledd.

Ond mae'r effaith ariannol ar Gaerdydd yn is nag ar Lundain, Manceinion, Glasgow a Newcastle - y dinasoedd eraill a nodir yn yr astudiaeth.

Mae cwmni Zipporah, cwmni TG o Gaerdydd, wedi penderfynu symud o uned fawr i uned lai y llynedd wedi iddynt ganfod bod gweithio o adref yn fwy defnyddiol i'w staff.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae busnesau fel Zipporah wedi symud i adeilad llai wrth i fwy ddewis gweithio o adref

Dywedodd cyfarwyddwr technegol Zipporah, Scott Burton: "Fe wnaethon ni ddechrau edrych am le llai Awst y llynedd.

"I ddechrau fe wnaethon ni edrych ar ganol y ddinas fel bod staff yn nes at y siopau ond doedd hynny ddim "yn gweithio'n ariannol."

Yn lle hynny fe wnaeth y cwmni symud i swyddfa fach yn Llaneirwg ar gyrion y brifddinas - swyddfa sydd â digon o le i 15 neu 20 o staff ond rhyw bump o bobl sy'n gweithio yno bob dydd.

'Caerdydd wedi newid'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rory Fleming yn rheoli dwy arcêd

Dywed Rory Fleming, rheolwr dwy arcêd yng Nghaerdydd bod hi'n anodd cymharu y cyfnod presennol â 2019 gan fod cymaint o bethau wedi newid.

"Yn 2019 roedd swyddfeydd yn llawn ac roedd pobl yn hyderus i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ond dim ond newydd gael yr hawl i ailagor y tu mewn mae busnesau lletygarwch.

"Er bod ffigyrau prynu a gwerthu yn is na 2019 mae yna gynnydd cyson - a byddai'n dda petai hynny yn para tan ddiwedd y flwyddyn.

"Bydd pobl, heb os, yn bryderus am ddychwelyd i ganol y ddinas a'r cyfan a allwn ni ei wneud yw creu amgylchedd a fydd yn gwneud pobl i deimlo'n ddiogel."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed adroddiad a baratowyd i Gyngor Caerdydd nad yw'n glir hyd yma effaith gweithio o adref ar ganol y ddinas ac nad yw'n eglur chwaith a fydd brechu eang yn peri i fwy o bobl ddychwelyd i'r swyddfa.

Nodir bod y symudiad i weithio o adref wedi bod yn "enfawr" a rhagwelir y bydd hynny yn parhau i raddau ond fe allai hynny ddenu cwmnïau sydd wedi arfer gweithredu mewn dinasoedd mwy, gan gynnwys Llundain.

'Effaith fawr'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn llwyr gydnabod effaith y pandemig ar strydoedd mawr ar draws Cymru a dyna pam ein bod yn gweithio'n agos gyda'r sectorau manwerthu a lletygarwch i ymateb i'r heriau sy'n eu hwynebu yn y tymor byr, canolig a hir.

"Ers dechrau'r pandemig ry'n wedi ymrwymo dros £2.5bn i fusnesau ar draws Cymru - hynny'n ychwanegol i'r gefnogaeth sy'n cael ei roi fel arfer drwy Busnes Cymru.

"Yn ychwanegol mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu bron i £110m o gymorth i gefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol canol ein trefi a'n dinasoedd.

"Mae gennym hefyd gynlluniau uchelgeisiol gan gynnwys treialu cyfres o hybiau wedi'u lleoli yn y gymuned er mwyn annog pobl i weithio yn nes at adref a chynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi."