Pryder am brinder nwyddau ym maes hamdden

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Maes carafanauFfynhonnell y llun, Education Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer wedi penderfynu mynd ar wyliau yng Nghymru yn hytrach na theithio dramor eleni

Wrth i batrwm bywyd newid yn sylweddol yn sgil Covid-19, mae'n gyfnod eithriadol o brysur a heriol i gwmnïau sy'n gwerthu offer yn y maes hamdden.

Mae prinder nifer fawr o nwyddau yn y maes carafanio a gwersylla, ac mae offer ar gyfer yr ardd yn diflannu oddi ar y silffoedd.

Mae'n ymddangos fod nifer wedi gwrando ar gyngor y Prif Weinidog Mark Drakeford i aros yng Nghymru'r haf hwn, oherwydd dyma'r cyfnod prysuraf erioed i werthwyr carafanau.

Ond dyw hynny ddim yn fêl i gyd yn ôl Shaun Ennis o gwmni carafanau Ennis yn Cross Hands, Sir Gâr.

"Ni wedi cal ein dala mas," meddai. "O'n ni'n gwybod amdano fe, ond beth bynnag o'n i'n gallu cal yn stoc - mae 'di mynd."

Mae prinder nifer fawr o nwyddau angenrheidiol yn y maes carafanio a gwersylla.

"Sai' 'di gweld shwt beth, yr accessories, yr adlenni, y nwy - ma' nhw'n brin o boteli i lanw nhw," meddai Mr Ennis.

"Ar hyn o bryd, so ni'n gallu cymryd lan customers newydd achos s'dim poteli i roi mas iddyn nhw. A phwmp dŵr, so ni'n gallu cal nhw - ni di ordro lot ond ma' ration nawr ar be' ni'n gallu cal.

"Ma' popeth yn dod mewn i'r wlad. Mae yn siomedig - ma' ishe i rywun ddechre 'neud nhw yn y wlad hon - 'na'r boi!"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shaun Ennis fod dognau ar nwyddau fel pympiau dŵr bellach

Yn ôl grŵp rhyngwladol Kingfisher, sy'n cynrychioli cwmnïau ym maes gwelliannau i'r cartref, mae prinder dybryd o rai nwyddau, gyda chyflenwyr yn gorfod ymdopi ag archebion cynyddol.

Yn ôl y sefydliad, mae hyn oherwydd Covid a'r digwyddiadau yn y gwanwyn yng Nghamlas Suez pan aeth llong enfawr yn gaeth yno gan atal teithiau llongau'n cludo nwyddau.

"Covid, mwy o customers yn 'neud carafanio, a Brexit. Ma' delays ar y ports, delays ar containers sy'n dod mewn a ma' hynny'n effeithio popeth," meddai Mr Ennis.

"Ni'n trio'n gore i gael gafael ar stoc, ac edrych yn bob man, ond so fe i gael."

'Llai'n talu am rywun i arddio'

Wrth i wyliau tramor ymddangos yn fwyfwy heriol i'r mwyafrif, os nad amhosib, mae'n bur debyg taw aros yn eu milltir sgwâr y bydd nifer fawr o bobl yr haf hwn.

Yn sgil hynny, mae siopau sy'n gwerthu offer i'r ardd o dan y don.

"Achos ni'n fisi, ni wedi cyflogi dau staff newydd sy'n grêt," meddai Alec Evans, sy'n rhedeg cwmni Myrddin Garden Machinery yng Nghaerfyrddin.

"Fi'n credu nawr, ma' shwt gymaint yn prynu machines eu hunain - ma' machines yn torri lawr, ac angen eu trwsio, a ma' machines yn torri lawr gyda phobl yn prynu rhai newydd yn eu lle."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alec Evans fod yna oedi stoc gydag ambell offeryn garddio

Mae Mr Evans o'r farn fod y pandemig wedi newid popeth, a bod llai o bobl bellach yn talu am rywun i arddio.

"Ni'n cael cwsmeriaid sy' byth 'di bia lawnmower o'r blaen sy'n 40 a 50 blwydd oed. Ma' nhw wastad wedi talu rhywun arall i neud e, ond achos bo' nhw gartre' a ffaelu mynd unrhyw le, ma' nhw nawr yn prynu machines eu hunain," meddai.

"Mae digon o stoc yn y siop ar hyn o bryd. Ond mae yna oedi gydag ambell beiriant a theclyn.

"Ma' cyfuniad o bethe dwi'n meddwl - production delays i ddechre ac wedyn fi'n clywed bod e'n costio cwmnïau mwy o arian nawr i gael pethe draw o Ewrop.

"O achos Brexit, fi'n credu bod y shipment costs yn fwy i gael stoc draw. Ni'n lwcus bod y gost i ni ddim 'di mynd lan, ond fi'n credu taw'r gost i'r manufacturers sy 'di mynd lan."

Mae disgwyl i'r heriau presennol barhau am o leiaf chwe mis, yn ôl grŵp Kingfisher.