Cwmnïau llety gwyliau wedi'u 'syfrdanu' gan y galw

  • Cyhoeddwyd
Llety gwyliauFfynhonnell y llun, Under the Thatch
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o safleoedd llety gwyliau yn dweud nad oes ganddyn nhw argaeledd nes yr hydref

Mae cwmnïau llety gwyliau yng Nghymru yn rhagweld haf anhygoel o brysur, gydag un yn dweud ei fod wedi'i "syfrdanu" gan y galw.

Dywedodd Greg Stevenson o gwmni Under the Thatch bod rhai safleoedd yn disgwyl gwneud gwerth blwyddyn arferol o elw o fewn ychydig fisoedd.

Mae cwmni Bythynnod Gwyliau Gogledd Cymru hefyd yn dweud nad oes gan rai o'i fythynnod unrhyw argaeledd nes mis Hydref.

Ychwanegodd cadeirydd Cwmni Twristiaeth Canolbarth Cymru ei fod yn rhagweld haf prysurach ym Mhowys a rhannau llai adnabyddus o Geredigion hefyd oherwydd diffyg argaeledd mewn mannau poblogaidd eraill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llety gwyliau wedi bod ar gau yng Nghymru am gyfnodau helaeth ers mis Mawrth 2020

Wedi i'r cyfnod clo cyntaf lacio yn haf 2020, erbyn mis Awst roedd 90% o lety gwyliau hunanarlwyo Cymru yn llawn - ac roedd arweinwyr y diwydiant yn siŵr bryd hynny na fyddai modd gwneud yn well na hynny eleni.

Ond mae Mr Stevenson yn hyderus y bydd patrwm tebyg eleni. O'r 82 llety gwyliau gan ofal Under the Thatch, mae tri chwarter yng Nghymru.

"Ar ôl gaeaf anodd rydyn ni wedi'n syfrdanu gyda'r galw ar gyfer haf 2021, a bydd nifer o safleoedd yn gwneud digon o arian i wneud yn iawn am fod ar gau yn ystod cyfnodau clo," meddai.

"Os oes 'na rywun yn canslo, mae'r bylchau hynny yn gwerthu am fwy o arian - sy'n helpu wrth ymdopi â cholledion y llynedd.

"Teuluoedd sy'n byw o fewn hanner awr i'r llety gwyliau sy'n berchen ar y mwyafrif o'n safleoedd ni, ac mae'n dda bod cymaint o deuluoedd lleol yn cael budd o'r cynnydd mewn diddordeb yng Nghymru yr haf hwn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gyda llai o gyfleoedd i deithio dramor, mae mwy yn archebu gwyliau yng Nghymru eleni

Mae Bythynnod Gwyliau Gogledd Cymru, sy'n helpu i rentu cannoedd o safleoedd gwyliau, wedi gweld cynnydd pellach mewn galw dros y mis diwethaf gan olygu bod Gorffennaf ac Awst bron yn llawn.

Dywedodd y cyfarwyddwr Barbara Griffiths ei bod wedi bod yn llawer distawach ym Mawrth ac Ebrill tra mai pobl o Gymru yn unig oedd yn cael teithio i lety gwyliau, ond ers hynny bod y galw wedi dychwelyd i lefel arferol.

"Ond wrth edrych ymlaen mae hi'n sylweddol brysurach na lefelau arferol," meddai.

"Yn y blynyddoedd diwethaf mae pobl wedi bod yn archebu eu gwyliau haf llawer hwyrach, ond eleni mae pethau wedi llenwi yn gynt o lawer."

Ychwanegodd bod nifer o safleoedd yn llawn nes y gaeaf, ond bod gan y mwyafrif o leiaf ychydig o argaeledd yn yr hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith i fusnesau ydy y bydd y galw yn helpu pobl i ddod o hyd i ardaloedd newydd

Dywedodd cadeirydd Cwmni Twristiaeth Canolbarth Cymru, Rowland Rees-Evans ei fod yn credu bod pobl yn "ysu" am adael eu cartrefi a mynd ar wyliau.

"Mae hi wedi bod yn 14 mis doedd neb yn ei ddisgwyl, ond rydyn ni'n dechrau dychwelyd i ryw fath o normalrwydd," meddai.

Mae Mr Rees-Evans hefyd yn gyfarwyddwr ar Barc Penrhos ger Aberystwyth, a dywedodd fod y galw yn helpu pobl i ddod o hyd i ardaloedd newydd.

"Os does 'na ddim lle yn Sir Benfro neu ogledd Cymru, maen nhw'n mynd i edrych ar fynd i rywle arall," meddai.

"Mae canolbarth Cymru yn prysur ddenu mwy o gydnabyddiaeth."

Pynciau cysylltiedig