T20: Morgannwg yn curo Surrey o drwch blewyn

  • Cyhoeddwyd
v.d.gugetnFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Timm van der Gugten oedd arwr Morgannwg

Wedi i Surrey alw'n gywir a gwahodd Morgannwg i fatio, fe gafodd y tîm cartre' ddechrau da yng Ngerddi Soffia.

Fe gafodd Kiran Carlson (32) a David Lloyd (41) bartneriaeth o 56 am y wiced gyntaf mewn ychydig dros bum pelawd, ac er i wicedi syrthio'n gyson wedyn, daeth batiad grymus o 41 h.f.a. gan Billy Root i roi cyfanswm teilwng o 153 i Forgannwg.

Roedd yn ddechra gwell fyth i'r bowlwyr wrth i Prem Sisodia gipio wiced gyda phelen gyntaf batiad yr ymwelwyr, ac fe gafodd Timm van der Gugten un arall i adael Surrey am 8 am 2 wedi'r ail belawd.

Ond gyda ser Lloegr, Ollie Pope a Rory Burns gyda'i gilydd yn y canol fe wellodd pethau'n arw i Surrey.

Pan aeth Pope am 60, roedd gobeithion yr ymwelwyr yn uchel, ac roedd angen 12 rhediad o'r belawd olaf.

Van der Gugten oedd â belawd, ac fe aeth y belen gyntaf dros y ffin am 6.

Llwyddodd i bwyllo pethau ac roedd angen dau rediad o'r belen olaf ar Surrey i gipio'r pwyntiau, ond llwyddodd van der Gugten i redeg allan Kyle Jamieson.

Buddugoliaeth i Forgannwg felly o un rhediad yn unig!

Morgannwg - 153 am 6

Surrey - 152 am 9

Pynciau cysylltiedig